Gweithredoedd 28 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-15A gwedi eu dyfod yn ddiangol i dir, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys. A’r barbariaid á ddangosasant i ni garedigrwydd annghyffredin; oblegid wedi iddynt gynneu tan, hwy á’n dygasant ni oll ato, oherwydd y gwlaw presennol, ac oherwydd yr oerfel. A gwedi i Baul gynnull yn nghyd swp o fanwŷdd, a’u dodi àr y tan, gwiber á ddaeth allan o’r gwres, ac á lynodd wrth ei law ef. A phan welodd y barbariaid y bwystfil yn nghrog wrth ei law ef, hwy á ddywedasant wrth eu gilydd, Llofrudd yn ddiau yw y dyn hwn, yr hwn nis gadawodd cyfiawnder iddo fyw, èr iddo ddianc o’r môr. Yntau, gwedi ysgwyd ymaith y bwystfil i’r tân, ni oddefodd ddim niwed. Ond yr oeddynt hwy yn dysgwyl y chwyddasai, neu y syrthiasai yn ddisymwth yn farw; a gwedi iddynt hirddysgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn dygwydd iddo, hwy á newidiasant eu meddwl ac á ddywedasant mai duw oedd efe. Ac yn nghymydogaeth y lle hwnw, yr oedd tiroedd Pènaeth yr ynys, enw yr hwn oedd Publius; yr hwn, wedi iddo ein derbyn iddei dŷ, á’n harfollodd ni yn garedig dri diwrnod. A dygwyddodd fod tad Publius yn gorwedd yn glaf o dwymyn a gwaedlif: at yr hwn wedi i Baul fyned i fewn, a gweddio, efe á ddododd ei ddwylaw arno ef, ac á’i hiachâodd. Wedi i’r wyrth hon, gàn hyny, gael ei gwneuthur, y lleill hefyd y rhai oedd â heintiau arnynt, yn yr ynys, á ddaethant ato, ac á iachawyd. Y rhai hefyd á’n parchasant ni â llawer o urddas; a phan oeddym yn ymadael, hwy á’n llwythasant ni â phethau angenrheidiol. A gwedi tri mis, ni á ymadawsom mewn llong o Alecsandria, yr hon á auafasai yn yr ynys, arwydd yr hon oedd Castor a Phòlucs. A gwedi ein dyfod i Syracuwsa, ni á arosasom yno dridiau. Oddyno, ni á aethom oddiamgylch, ac á ddaethom gyferbyn â Rhegium. Ac àr ol un diwrnod a’r deheuwynt yn chwythu, ni á ddaethom, mewn deuddydd, i Buteoli; lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod; a felly ni á aethom i Rufain. Ac oddyno, y brodyr, wedi clywed am ein helynt, á ddaethant i’n cyfarfod cybelled ag Apii Fforum, a’r Tair Tafarn: y rhai, pan welodd Paul, efe á ddiolchodd i Dduw, ac á gymerodd gysur.

16-29A phan ddaethom i Rufain, y canwriad á roddes y carcharorion at gadben y llu; eithr cenadwyd i Baul aros o’r neilldu, mewn tŷ o’r eiddo ei hun, gyda milwr oedd yn ei gadw ef. A bu, àr ol tridiau, i Baul alw yn nghyd y rhai oedd bènaf o’r Iuddewon. A gwedi iddynt ddyfod yn nghyd, efe á ddywedodd wrthynt, Frodyr, èr na wnaethym i ddim yn erbyn y bobl, na defodau ein tadau, eto mi á roddwyd yn garcharor, o Gaersalem i ddwylaw y Rhufeiniaid; y rhai, gwedi iddynt fy holi á fỳnasent fy ngollwng yn rydd, am nad oedd dim achos angeu ynof. Ond pan wrthwynebodd yr Iuddewon, gorfu arnaf apelio at Gaisar; nid fel pe bai gènyf ddim i achwyn àr fy nghenedl fy hun. Am yr achos yma, gàn hyny, y dymunais gael eich gweled, ac ymddyddan â chwi: canys o achos gobaith Israel ym rhwymwyd i â’r gadwyn hon. A hwythau á ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Iuwdea yn dy gylch di, a ni fynegodd, a ni ddywedodd neb o’r brodyr à ddaethant oddyno, ddim drwg am danat ti. Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gènyt ti, beth yr wyt ti yn ei synied; oblegid am yr arblaid hon, y mae yn hysbys i ni fod yn mhob màn ddywedyd yn ei herbyn. A gwedi iddynt bènodi diwrnod iddo, llawer á ddaethant ato iddei letty; i’r rhai yr eglurodd efe, gàn dystiolaethu teyrnas Duw, a’u darbwyllo hwynt am y pethau à berthynent i Iesu; allan o gyfraith Moses, a’r proffwydi, o’r bore hyd yr hwyr. A rhai á ddarbwyllwyd drwy y pethau à ddywedid; a rhai ni chredasant. A chàn annghyttuno â’u gilydd, hwy á ymadawsant; wedi i Baul ddywedyd yr un gair hwn, Yn ddiau, da y llefarodd yr Ysbryd Glan, drwy Isaia y proffwyd, wrth ein tadau ni, pan y dywedodd, “Dos at y bobl hyn a dywed, Gan glywed y clyẅwch, a ni ddeallwch; a chàn weled y gwelwch, a ni chanfyddwch: canys brasawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywant â’u clustiau, a’u llygaid á gauasant, rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’u calon, a dychwelyd, ac i mi eu hiachâu hwynt.” Bydded hysbys i chwi, gàn hyny, anfon iechydwriaeth Duw at y Cenedloedd, a hwy á’i gwrandawant. A gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn, yr Iuddewon á ymadawsant, a chanddynt ddadleuon mawr yn eu plith eu hunain.

30-31Ond Paul á arosodd ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, ac á dderbyniodd bawb à ddelai ato; gàn gyhoeddi teyrnas Duw, a dysgu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob rhyddineb ymadrodd, yn ddirwystr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help