Ephesiaid 1 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-2 Paul, Apostol i Iesu Grist, drwy ewyllys Duw, at y saint y sydd yn Ephesus, sef y credinwyr yn Nghrist Iesu: Rhad fo i chwi, a thangnefedd oddwrth Dduw ein Tad, ac oddwrth ein Harglwydd Iesu Grist.

3-14Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn á’n bendithiodd ni â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd yn Nghrist; megys yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn santaidd, ac yn ddifeïus yn ei olwg ef; wedi iddo, mewn cariad, ein rhagbenodi ni i fabwysiad drwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ol boddlonrwydd ei ewyllys ef, èr mawl gogoniant ei radioni ef, â’r hwn y cymwynasodd efe ni yn yr Anwylyd; yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth drwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau, yn ol cyfoeth ei radioni ef, yr hwn á fu yn helaeth tuag atom ni yn mhob doethineb a deall: wedi iddo hysbysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ol ei fwriad rhadionus, yr hwn á arfaethasai ef ynddo ei hun, èr gweinyddiaeth cyflawnder yr amseroedd gosodedig, i grynoi yn nghyd bob peth dàn Grist, – pob peth yn y nefoedd, a phob peth àr y ddaiar, – dano ef: dàn yr hwn y cawsom ninnau hefyd etifeddu, wedi ein rhagbenodi yn ol arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pob peth yn ol cynghor ei ewyllys ei hun, fel y byddem ni èr mawl ei ogoniant ef, y rhai o’r blaen á obeithiasom yn Nghrist. Yn yr hwn y g obeithiasoch chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair y gwirionedd, efengyl eich iechydwriaeth; yn yr hwn hefyd wedi i chwi gredu ych seliwyd âg Ysbryd yr addewid, – yr Ysbryd Glan, – yr hwn sydd wystl o’n hetifeddiaeth ni, am brynedigaeth y pwrcas, èr mawl ei ogoniant ef.

15-23Oherwydd hyn, minnau hefyd, wedi clywed am eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu, ac am eich cariad at yr holl saint, nid wyf yn peidio â diolch drosoch, gàn wneuthur coffa am danoch yn fy ngweddiau; àr i Dduw ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, roddi i chwi ysbryd doethineb a dadguddiad yn y wybodaeth am dano ef; fel wedi goleuo llygaid eich deall, y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a beth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn mhlith y saint; a beth yw rhagorol fawredd ei nerth ef, tuag atom ni y rhai ym yn credu, yn ol gweithrediad nerth ei gadernid ef, yr hwn á weithredodd efe yn Nghrist, pan y cyfododd ef o feirw, ac á’i gosododd ef i eistedd àr ei ddeheulaw ei hun yn y nefolion leoedd; goruwch pob llywodraeth, awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw à enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn à ddaw; ac á ddarostyngodd bob peth dàn ei draed ef, ac á’i gosododd ef yn ben uwchlaw pob peth i’r gynnulleidfa, yr hon yw ei gorff ef, ei gyflawnder ef yr hwn sydd yn llenwi oll yn oll; –

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help