Ioan Marc 4 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-2Drachefn, yr oedd efe yn athrawiaethu wrth làn y môr, pan ymgasglodd y fath dyrfa o’i amgylch, nes y gorfu iddo fyned i long, ac eistedd yno, tra yr arosai yr holl bobl àr y làn. Yna y dysgodd efe iddynt lawer o bethau drwy ddamegion.

3-9Wrth ddysgu, efe á ddywedodd wrthynt, Gwrandewch, wele yr heuwr á aeth allan i hau. A fel yr oedd efe yn hau, peth o’r had á syrthiodd àr ymyl y ffordd, a’r adar á ddaethant, ac á’i pigasant i fyny. Peth á syrthiodd àr dir creigiog, lle ni chafodd ond ychydig bridd. Hwn á eginodd yn gynt, am nad oedd yno ddyfnder daiar. Ond wedi i’r haul guro arno, efe á ddeifiwyd, ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe á wywodd. Peth á syrthiodd yn mysg drain, a’r drain á dyfasant, ac á’i tagasant ef, fel na ddygodd ddim ffrwyth. Peth á syrthiodd i dir da, ac á dyfodd, ac á ddaeth mòr ffrwythlawn, nes y dyg rhai grawn ddeg àr ugain, rhai driugain, a rhai gant. Efe á chwanegodd, Pwybynag sy ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.

10-13Pan oedd efe wrtho ei hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyda ’r deuarddeg, á ofynasant iddo ysdyr y ddameg. Yntau á ddywedodd, wrthynt, Eich braint chwi yw gwybod cyfrinion Teyrnasiad Duw, ond i’r rhai oddallan pob beth á lènir mewn damegion, fel na chanfyddont yr hyn yr edrychant arno, nac y deallont yr hyn á glywant; rhag iddynt ddychwelyd, a chael maddeuant o’u pechodau. Efe á ddywedodd hefyd wrthynt, Onid ydych yn dëall y ddameg hon? Pa fodd ynte y deallwch yr holl ddamegion?

14-23Yr heuwr yw yr hwn sydd yn taenu y gair. Ymyl y ffordd, yr hwn y syrthiodd peth o’r had arno, á ddynoda y rhai, gwedi iddynt glywed y gair, y mae Satan yn dyfod ac yn cymeryd ymaith yr hyn à heuwyd yn eu calonau. Y tir creigiog á ddynoda y rhai, gwedi iddynt glywed y gair, á’i derbyniant àr y cyntaf gyda hyfrydwch; eto heb ei fod wedi gwreiddio yn eu meddyliau, nid ydynt yn ei ddal ond dros ychydig; oblegid pan ddel blinder neu erlidigaeth o achos y gair, yn y fàn hwy á adgwympant. Y tir dreiniog á ddynoda y gwrandaẅwyr hyny, yn y rhai y mae gofalon bydol, a chyfoeth hudoliaethus, a chwant gormodol am bethau ereill, yn tagu y gair, ac yn ei wneuthur yn anffrwythlawn. Y tir da àr yr hwn y dyg rhai grawn ddeg àr ugain, rhai driugain, a rhai gant, á ddynoda y rhai à glywant y gair, ac á’i daliant, ac á ddygant ei ffrwyth. Efe á ddywedodd yn mhellach, A ddygir llusern iddei osod o dàn lestr, neu o dàn wely, a nid iddei osod àr ddaliadur? Canys nid oes dïm dirgel, nad yw i gael ei amlygu; na dim wedi ei gelu, nad yw i gael ei ddadguddio. Od oes gàn neb glustiau i wrandaw, gwrandawed.

24-25Efe á ddywedodd hefyd, Ysdyriwch beth á wrandawoch; â’r mesur â’r hwn y rhoddwch, y derbyniwch. Canys i’r hwn sy ganddo, y rhoddir chwaneg; ond oddar yr hwn nid oes ganddo, y cymerir hyd yn nod yr hyn sy ganddo.

26-29Efe á ddywedodd drachefn, Y mae teyrnas Duw fel had, yr hwn á heuodd dyn yn ei faes. Tra y cysgai y nos, ac y deffroai y dydd, yr had á eginodd heb iddo sylwi arno. Canys y mae y ddaiar yn dwyn o honi ei hun, yn gyntaf yr eginyn, yna y dwysen; wedi hyny yr ŷd llawn. Ond cygynted ag yr addfedodd yr ŷd, efe á roddes y cryman ynddo, am ei bod yn amser ei fedi.

30-32Efe á ddywedodd hefyd, I ba beth y cymharwn deyrnas Duw, neu drwy ba gyffelybiaeth y gosodwn hi allan? Tebyg ydyw i ronyn o had cethw, yr hwn, pan heuir ef yn y ddaiar, yw y lleiaf o’r holl hadau sydd yno. Ond wedi yr heuir ef, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy nag un llysieuyn, ac yn dwyn allan gangenau cymaint, nes y gall adar yr awyr ymddiddosi o dàn eu cysgodion.

33-34A thrwy lawer o’r fath gyffelybiaethau yr addysgai efe y bobl, fel yr oedd yn eu gweled yn cael eu tueddu i wrandaw: a heb gyffelybiaeth ni ddywedai efe ddim wrthynt; ond efe á eglurai y cwbl iddei ddysgyblion o’r neilldu.

35-41Y dydd hwnw, yn yr hwyr, efe á ddywedodd wrthynt, Awn drosodd i’r ochr draw. A hwy, gàn adael y bobl, ond ac efe gyda hwynt yn y llong, á hwyliasant gyda llongigion ereill. Yna y cododd tymhestl fawr o wynt, yr hon á daflodd y tònau i’r llong, yr hon oedd erbyn hyn yn llawn. Ac yr oedd Iesu yn yr ysdarn, yn cysgu àr obènydd, a hwy á’i deffroisant ef, gàn ddywedyd, Rabbi, á oes arnat ddim gofal rhag darfod am danom ni? Ac efe á gyfododd, ac á geryddodd y gwynt, gàn ddywedyd wrth y môr, Gosteg! dystawa! Yn y fàn peidiodd y gwynt, a bu tawelwch mawr. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych mòr ofnus? Pa fodd nad oes gènych ffydd? A hwy á ddychrynasant yn ddirfawr, ac á ddywedasant y naill wrth y llall, Pwy yw hwn, y mae hyd yn nod y gwynt a’r môr yn ufyddâu iddo?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help