Dadguddiad 21 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-8A mi á welais nef newydd a daiar newydd; canys y nef gyntaf a’r ddaiar gyntaf á aethent heibio: a’r môr nid oedd mwyach. A myfi, Ioan, á welais y ddinas santaidd, y Gaersalem newydd, yn disgyn o’r nef oddwrth Dduw, gwedi ei pharotoi fel priodferch wedi ei thrwsio iddei gwr. A mi á glywais lef uchel allan o’r nef, yn dywedyd, Wele, y mae pabell Duw gyda dynion, ac efe á babella gyda hwynt, a hwy a fyddant yn bobl iddo ef, a Duw ei hun á fydd gyda hwynt – yn Dduw iddynt. Ac efe á sych ymaith bob deigr oddwrth eu llygaid hwynt; a marwolaeth ni bydd mwyach, na thirstwch, na llefain; ac ni bydd poen mwyach; oblegid y pethau cyntaf á aethant heibio. A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd àr yr orseddfainc, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd. Ac efe á ddywedodd wrthyf, Ysgrifena, canys y mae y geiriau hyn yn gywir ac yn ffyddlawn. Ac efe á ddywedodd wrthyf, Darfu. Myfi yw Alpha ac Omega, y Dechreu a’r Diwedd; i’r hwn y sy sychedig, y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad. Y gorchfygwr á etifedda bob peth; a mi á fyddaf iddo ef yn Dduw, ac yntau á fydd i minnau yn fab. Ond i’r rhai ofnog, a’r digred, a’r ffiaidd, a’r llofruddion, a’r puteinwyr, a’r swyngyfareddwyr, a’r eilunaddolwyr, a’r holl gelwyddwyr – eu rhan fydd yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan, yr hon yw yr ail farwolaeth.

9-27A daeth un o’r saith angel, yr oedd y saith fail ganddynt yn llawn o’r saith bla diweddaf; ac á ymddyddanodd â mi, gàn ddywedyd, Dyred, mi a ddangosaf i ti y briodferch, gwraig yr Oen. Ac efe á’m dyg i yn yr Ysbryd i fynydd mawr ac uchel; ac á ddangosodd i mi y ddinas, y Gaersalem lân, yn dyfod i waered o’r nef oddwrth Dduw, â gogoniant Duw ganddi; (ei dysgleirder oedd fel yr eiddo y gem gwerthfawrocaf, hyd y nod fel maen iaspis, yn loew fel crisial,) ac iddi fur mawr uchel; ac iddi ddeg a dau borth, ac uwch y pyrth ddeg a dau angel, ac enwau gwedi eu hysgrifenu arnynt, y rhai ydynt enwau deg a dau lwyth plant Israel: o du y dwyrain, tri phorth; o du y gogledd, tri phorth; o du y deau, tri phorth; ac o du y gorllewin, tri phorth. Ac yr oedd mur y ddinas âg iddo ddeg a dwy sylfaen; ac arnynt enwan deg a dau Apostol yr Oen. A’r hwn oedd yn ymddyddan â mi oedd â chorsen aur ganddo, i fesur y ddinas, a’i phyrth, a’i mur. A’r ddinas sy bedeirongl, a’i hŷd sy gymaint a’i lled; ac efe á fesurodd y ddinas â’r gorsen, yn ddeg a dwy fil o ystadau: a’i hŷd, a’i lled, a’i huchder, ydynt gyfartal. Ac efe á fesurodd ei mur hi, yn gant a phedwar cufydd a deugain wrth fesur dyn, hyny yw, yr eiddo angel. A’i mur hi oedd wedi ei adeiladu o faen iaspis, a’r ddinas oedd o aur pur, yn debyg i wydr gloew. A seiliau mur y ddinas oedd wedi eu haddurno â phob rhyw faen gwerthfawr. Y sylfaen gyntaf oedd faen iaspis; yr ail, saphir; y drydedd, calcedon; y bedwerydd, smaragdus; y bummed, sardonyx; y chwechfed, sardius; y seithfed, eurfaen; yr wythfed, beryl; y nawfed, topazion; y degfed, chrysoprasus; yr unfed‐ar‐ddeg, hyacinthus; y deuarddegfed, amethystus. A’r deg a dau borth, deg a dau o berlau oeddynt: pob un o’r pyrth oedd o un perl. A heol y ddinas oedd aur pur, fel gwydr gloew. A theml ni welais ynddi; canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a’r Oen, ydynt ei theml hi. A’r ddinas nid oedd raid iddi wrth yr haul, na’r lleuad, i oleuo ynddi; canys gogoniant Duw oedd yn ei goleuo hi, a’i goleuni hi yw yr Oen. A chenedloedd y rhai cadwedig á rodiant yn ei goleuni hi; ac y mae breninoedd y ddaiar yn dwyn eu gogoniant a’u hanrhydedd iddi hi. A’i phyrth hi ni cheuir ddim y dydd, (canys ni bydd nos yno.) A hwy á ddygant ogoniant ac anrhydedd y cenedloedd iddi hi. Ac nid â i fewn iddi ddim aflan, na dim sydd yn gwneuthur ffieidd‐dra a chelwydd; ond yn unig y rhai sy gwedi eu hysgrifenu yn llyfr bywyd yr Oen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help