2 Corinthiaid 10 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-18A myfi (yr un Paul, yr hwn, pan yn bresennol, yn wir, wyf ostyngedig yn eich plith; ond pan yn absennol, wyf hyf tuag atoch,) ydwyf yn attolwg i chwi, èr addfwynder a hynawsedd Crist. Ac yr wyf yn dymuno, pan yn bresennol na byddwyf hyf, â’r hyder â’r hwn yr wyf yn bwriadu bod yn hyf yn erbyn rhai, y sydd yn ein cyfrif ni megys rhai yn rhodio yn ol y cnawd. Canys èr ein bod ni yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ol y cnawd; (canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol iawn i fwrw cestyll i’r llawr;) gàn fwrw rhesymiadau i lawr, a phob uchelbeth à godir yn erbyn gwybodaeth Duw; a chàn ddwyn yn gaeth bob meddwl i ufydd‐dod Crist; a pharod ydym i gosbi pob anufydd‐dod, pan gyflawner eich ufydd‐dod chwi. Ai edrych yr ydych àr bethau yn ol y golwg allanol? Od oes neb yn hyderu ynddo ei hun ei fod yn eiddo Crist, rhesymed hyn, o’r tu arall, o hono ei hun, mai megys y mae efe yn eiddo Crist, felly ninnau hefyd. Ac am hyny, ni’m cywilyddid, pe bostiwn beth ychwaneg am ein hawdurdod, yr hon á roddodd yr Arglwydd i ni èr adeiladaeth i chwi, a nid èr eich dinystr. Fel nad ymddangoswyf fel pe bawn am eich dychrynu chwi drwy lythyrau; (oblegid y mae ei lythyrau, medd un, yn bwysig a chryfion; eithr presennoldeb ei gorff sydd wan, a’i ymadrodd yn ddirmygus;) y cyfryw un penderfyned hyn, mai y fath ag ydym ni àr air drwy lythyrau, pan yn absennol, yr un fath hefyd á fyddwn, àr weithred, pan yn bresennol. Eithr nid ydym ni yn beiddio ein rhesu a’n cymharu ein hunain â rhai y sydd yn eu canmol eu hunain: eithr, hwynthwy, gàn eu mesur eu hunain yn eu plith eu hunain, a’u cymharu eu hunain â hwy eu hunain, nid ydynt yn eu deall eu hunain. Hefyd, ni fostiwn ni am bethau heb eu mesur yn ol y llinyn mesur à osododd Duw y mesur i ni, i gyrhaeddyd hyd y nod atoch chwi. Canys nid ydym ni yn ymestyn allan tu hwnt i’n llinyn, megys heb gyrhaeddyd hyd atoch chwi; (eithr hyd atoch chwi hefyd y daethom yn efengyl Crist.) Nid ydym ni yn bostio am bethau heb eu mesur, hyny yw, am lafur rhai ereill; eithr y mae genym obaith, pan gynnyddo eich ffydd chwi, cael drwoch chwi ein helaethu yn ddirfawr o ran ein llinyn, i fynegi yr efengyl yn y parthau tu hwnt i chwi; a nid yn llinyn un arall, i fostio am bethau parod eisoes. Gan hyny y sawl sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd. Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun, sy gymeradwy; ond yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ganmol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help