Matthew Lefi 26 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

DOSBARTH XIV.Y Cwynos diweddaf.

1-5Gwedi i Iesu ddybenu yr ymadrawdd hwn, efe á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Gwyddoch mai gwedi deuddydd y daw y pasc. Yna Mab y Dyn á draddodir iddei groeshoelio. Yn nghylch y pryd hwn yr oedd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl wedi dyfod yn nghyd i lys Caiaphas yr archoffeiriad, lle yr ymgynghorent pa fodd y dalient Iesu drwy ddichell, ac y lladdent ef. Dywedasant, pa fodd bynag, Nid yn ystod yr ŵyl, rhag bod terfysg yn mhlith y bobl.

6-13Ac â Iesu yn Methania, yn nhŷ Simon, gynt y gwahanglwyfus, daeth ato wraig â chanddi flwch alabastr o enaint tragwerthfawr, yr hwn á dywalltodd hi àr ei ben ef, tra yr ydoedd efe wrth y bwrdd. Ei ddysgyblion ef wedi gweled hyn, á ddywedasant yn ddigllonus, I ba beth y gwnaed y gwastraff hwn? Gallasid gwerthu hwn am bris mawr, a rhoddi yr arian i’r tylodion. Iesu gwedi gwybod hyn, á ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn blino y wraig? Hi á wnaeth gymwynas â mi. Canys y mae genych y tylodion bob amser yn eich plith, ond myfi nid oes genych bob amser. Oblegid i’m heneinio y tywalltodd hi yr enaint hwn àr fy nghorff. Yn wir, meddaf i chwi, pa le bynag o’r byd y pregethir yr efengyl, yr hyn á wnaeth y wraig hon yn awr, á grybwyllir èr anrhydedd iddi.

14-16Yna un o’r deuarddeg, à elwid Iuwdas Iscariot, á aeth at yr archoffeiriaid, ac á ddywedodd, Pa beth á roddwch i mi, a mi á’i traddodaf ef i chwi? A hwy á bwysasant iddo ddeg sicl àr ugain. Ac o’r pryd hwnw y gwyliai efe am arfod iddei draddodi ef.

17-19Ac àr ddydd cyntaf y bara croew, y dysgyblion á ddaethant at Iesu, gàn ddywedyd, Pa le y parotown i ti i fwyta y pasc? Yntau á atebodd, Ewch i’r ddinas, at y cyfryw ddyn, a dywedwch wrtho, Y mae yr Athraw yn dywedyd, Fy amser sydd agos; rhaid i mi gadw y pasc yn dy dŷ di gyda fy nysgyblion. A’r dysgyblion á wnaethant fel yr archwyd iddynt, ac á barotoisant y pasc.

20-25Yn yr hwyr, efe á osododd ei hun wrth y bwrdd gyda ’r deuarddeg; a thra yr oeddynt yn bwyta, efe á ddywedodd, Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, y bradycha un o honoch fi. A hwythau yn drist iawn, á ddechreuasant bob un o honynt ddywedyd, Feistr, Ai myfi yw? Yntau gàn ateb, á ddywedodd, Y sawl sydd â’i law yn y ddysgl gyda ’r eiddof fi, hwnw á’m bradycha i. Mab y Dyn sydd yn myned ymaith megys y rhagddywedwyd yn yr ysgrythyr am dano; ond gwae y dyn hwnw, gàn yr hwn y bradychir Mab y Dyn! Gwell fuasai i’r dyn hwnw fod heb ei eni erioed. Yna Iuwdas, yr hwn á’i bradychodd ef, á ddywedodd hefyd, Rabbi, ai myfi yw? Iesu á atebodd, Ië.

26-30Fel yr oeddynt yn bwyta, Iesu á gymerodd y dorth; a gwedi rhoddi diolch, á’i tòrodd; ac á’i rhoddes i’r dysgyblion, ac á ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. Yna y cymerodd efe y cwpan, a gwedi iddo ddiolch, á’i rhoddes iddynt, gàn ddywedyd, Yfwch bawb o hwn; canys hwn yw fy ngwaed, gwaed y sefydliad newydd, tywalltedig dros lawer èr maddeuant pechodau. Yr wyf yn sicrâu i chwi, nad yfaf o hyn allan o gynnyrch y winwydden, hyd y dydd yr yfaf ef yn newydd gyda chwi yn nheyrnas fy Nhad. A gwedi yr emyn, hwy á aethant allan i fynydd yr Oleẅwydd.

31-35Yna Iesu á ddywedodd wrthynt, Y nos hon y byddaf yn dramgwyddfa i chwi oll; canys ysgrifenwyd, “Tarawaf y Bugail, a’r praidd á wasgerir.” Ond wedi i mi gyfodi drachefn, mi á âf o’ch blaen chwi i Alilëa. Yna Pedr á ddywedodd wrtho, Pe byddit yn dramgwyddfa iddynt oll, ni wneir i mi byth dramgwyddo. Iesu a atebodd, Yn wir, yr wyf yn dywedyd i ti, mai y nos hon, cyn canu o’r ceiliog, ym gwedi deirgwaith. Pedr á atebodd, Pe gorfyddai i mi farw gyda thi, ni’th wadaf byth. A’r holl ddysgyblion á ddywedasant yr un peth.

36-46Yna yr aeth Iesu gyda hwynt i le à elwid Gethsemane, ac á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Aroswch chwi yma, tra yr elwyf fi acw a gweddio. Ac efe á gymerodd gydag ef Bedr, a dau fab Zebedëus; ac efe yn cael ei lethu gàn ofid, á ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid wedi ei orchwyo â gloes angeuol; aroswch yma, a gwyliwch gyda mi. A gwedi myned ychydig yn mlaen, efe á ymdaflodd àr ei wyneb, a chàn weddio, á ddywedodd, Fy Nhad, symud oddwrthyf y cwpan hwn, os galluadwy yw; èr hyny, nid fel yr wyf fi yn ewyllysio, ond fel yr wyt ti. Ac efe á ddychwelodd at ei ddysgyblion, a phan y cafodd hwynt yn cysgu, efe á ddywedodd wrth Bedr, Ai felly y mae, na allwch fod yn effro gyda mi un awr? Gwyliwch a gweddiwch, na byddo i chwi gael eich gorchfygu gàn brofedigaeth; yr ysbryd yn ddiau sy barod, ond y cnawd sydd wan. Efe á giliodd eilwaith ac á weddiodd, gàn ddywedyd, O fy Nhad, os nad all y cwpan hwn fyned heibio oddwrthyf, fel nad yfwyf ef, dy ewyllys di á wneler. Ar ei ddychweliad, efe á’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu, (canys yr oedd eu llygaid wedi eu gorchfygu.) Drachefn, efe á’u gadawodd hwynt, á aeth, ac á weddiodd y drydedd waith, gàn arfer yr un geiriau. Yna efe á ddaeth yn ol at ei ddysgyblion, ac á ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn cysgu o hyd, ac yn gorphwyso? Wele y mae yr awr yn nesâu, pan draddodir Mab y Dyn i ddwylaw pechaduriaid. Cyfodwch, awn: wele! y mae yr hwn sydd yn fy mradychu gerllaw.

47-56Cyn iddo orphen llefaru, Iuwdas, un o’r deuarddeg, á ddaeth gyda thyrfa fawr, wedi eu harfogi â chleddyfau a ffyn, a’u hanfon gàn yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl. A’r bradychwr á roddasai iddynt arwydd, gàn ddywedyd Pa un bynag á gusanwyf, hwnw yw efe! deliwch ef. Ac efe á ddaeth yn uniawn at Iesu, ac á ddywedodd, Hanbych well, Rabbi, ac á’i cusanodd ef. Iesu á atebodd, Gyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant yn mlaen, a chàn osod eu dwylaw àr Iesu, á’i daliasant ef. Ar hyn, un o gymdeithion Iesu gwedi dodi ei law àr ei gleddyf, á’i tỳnodd ef; a chàn daro gwas yr archoffeiriaid, efe á dórodd ei glust ef. Iesu á ddywedodd wrtho, Dod dy gleddyf yn y wain; canys pwybynag á gymero gleddyf á syrth drwy y cleddyf. A wyt ti yn tybied nas gallaf yr awrhon alw àr fy Nhad, yr hwn á anfonai i’m cymhorth fwy na deg a dwy leng o angylion? Ond pe felly, pa fodd y cyflawnid yr Ysgrythyrau, y rhai á fynegant bod yn raid i’r pethau hyn fod? Yna gwedi troi at y dyrfa, efe á ddywedodd, A ydych chwi yn dyfod gyda chleddyfau a ffyn i ’m dal i, fel rhai yn erlid àr ol ysbeiliwr? Yr oeddwn i beunydd yn eistedd yn eich mysg chwi, yn dysgu yn y deml, a ni ddaliasoch fi. Eithr hyn oll á ddygwyddodd, fel y cyflawnid ysgrifeniadau y Proffwydi. Yna yr holl ddysgyblion á’i gadawsant ef, ac á ffoisant.

DOSBARTH XV.Y Croeshoeliad.

57-58A’r rhai à ddaliasent Iesu, á’i dygasant ef at Gaiaphas yr archoffeiriad, gyda ’r hwn yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgynnull. Eithr Pedr á’i canlynodd ef o hirbell, i gyntedd tŷ yr archoffeiriad, a gwedi myned i fewn, á eisteddodd gyda ’r swyddogion i weled y diwedd.

59-67Yn y cyfamser yr archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r holl Sanhedrim, á geisiasant eubrawf yn erbyn Iesu, wrth yr hwn y gallent ei gollfarnu ef i farw. Ond èr i eudystion lawer ymddangos, ni chawsant. O’r diwedd daeth dau eudyst, y rhai á’i cyhuddent ef o ddywedyd, Mi á allaf ddinystrio teml Duw, a’i hailadeiladu mewn tridiau. Yna y cyfododd yr archoffeiriad, ac á ddywedodd, wrtho, A atebi di ddim i’r peth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? Ac Iesu yn parâu yn ddystaw, efe á chwanegodd, Yr wyf yn dy dyngedu drwy y Duw byw, i ddywedyd wrthym, ai ti yw y Messia, Mab Duw. Iesu á’i hatebodd ef, Fel yr wyt yn dywedyd y mae; yn mhellach yr wyf yn dywedyd i chwi, y gwelwch, àr ol hyn Fab y Dyn, yn eistedd àr ddeheulaw yr Hollalluog, ac yn dyfod àr gymylau y Nef. Yna yr archoffeiriad, gan rwygo ei ddillad, á ddywedodd, Efe á gablodd. Pa raid i ni mwyach wrth dystion, gàn i chwi ei glywed ef yn cablu? Beth dybygwch chwi? Hwy a atebasant, Y mae efe yn haeddu marw. Yna y poerasant yn ei wyneb. Rhai á’i cernodiasant, ac ereill á’i tarawsant àr ei rudd, ac á ddywedasant, Dewinia i ni, Fessia, pwy á’th darawodd.

68-75A Phedr oedd yn eistedd allan yn y cyntedd, a daeth morwyn ato, ac á ddywedodd, Yr oeddit tithau hefyd gydag Iesu y Galilëad. Ond efe á wadodd yn eu gwydd hwynt oll, gàn ddywedyd, Nid ydwyf yn gwybod dim am y mater. A fel yr oedd efe yn myned allan i’r porth, morwyn arall á’i canfu ef, ac á ddywedodd wrthynt, Yr oedd hwn hefyd gydag Iesu y Nasarethiad. Yntau á wadodd eilwaith, gàn dyngu nad adwaenai efe mo hono. Yn fuan gwedi, rhai o’r sawl à safent gerllaw á ddywedasant wrth Bedr, Y mae yn sicr dy fod yn un o honynt, oblegid y mae dy lafarwedd yn dy ddadguddio. Ar hyny, efe á haerodd drwy regfëydd a llẅon, nad adawenai efe mo hono; ac yn y fàn, canodd y ceiliog. Yna y cofiodd Pedr y gair, à ddywedasai Iesu wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, ti á ’m gwedi deirgwaith. Ac efe á aeth allan ac á wylodd yn chwerwdost.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help