1 Thessaloniaid 4 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-8Am yr hyn sydd yn ol gàn hyny, frodyr, yr ydym yn attolygu i chwi ac yn eich cynghori drwy yr Arglwydd Iesu, megys y derbyniasoch genym, pa fodd y dylech rodio, a boddloni Duw, ar fod o honoch yn hyny yn helaethach. Canys chwi á wyddoch pa orchymynion á roisom i chwi drwy yr Arglwydd Iesu; canys hyn yw ewylls Duw, sef eich santeiddiad chwi, àr ymgadw o honoch rhag puteindra – àr fedru o bob un o honoch feddiannu ei gorff ei hun mewn santeiddrwydd a pharch; – nid mewn gwyn trachwantus, fel y Cenedloedd y rhai nid adwaenant Dduw. – Na bo i neb fyned dros derfynau, neu dwyllo ei frawd yn y peth hwn, canys dialydd yw yr Arglwydd i’r rhai hyn oll; megys hefyd y dywedasom o’r blaen, ac y tystiasom mewn modd arbenig i chwi; oblegid ni alwodd Duw ni i aflendid, ond i santeiddrwydd. Am hyny, y sawl y sydd yn ein diystyru ni, nid dyn y mae yn ei ddiystyru, ond Duw, yr hwn yn ddiau á roddes i ni ei Ysbryd Glan.

9-12Ond, am frawdgarwch, ni raid i chwi ysgrifenu o honof atoch; canys yr ydych eich hunain wedi eich dysgu gàn Dduw i garu eich gilydd. Ac, yn wir, yr ydych yn ei wneuthur tuagat bawb o’r brodyr y sy drwy holl Facedonia; ond yr ydym yn eich cynghori chwi, frodyr, i gynnyddu eto yn fwy, ac ymorchestu o honoch i fod yn llonydd; a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio a’ch dwylaw eich hunain, megys y gorchymynasom i chwi: fel y rhodioch yn weddaidd tuagat y rhai sydd oddi allan, a na byddo arnoch eisieu dim.

13-18Hefyd, ni fỳnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, am y rhai à hunasant; fel na thristâoch, fel y lleill, y rhai nid oes ganddynt obaith. Canys os ydym yn credu farw Iesu, a’i adgyfodi; felly hefyd, y rhai à hunasant, á ddwg Duw drwy Iesu gydag ef. – Gyda hyny, hyn yr ydym yn ei sicrâu i chwi, drwy air yr Arglwydd, na bydd i ni y rhai byw, y rhai fydd yn aros yn nyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu y rhai à hunasant; oblegid yr Arglwydd ei hun á ddisgyn o’r nef, gyda bloedd, gyda llef yr Arch Angel, a chydag udgorn Duw. A’r meirw yn Nghrist á gyfodant yn gyntaf; wedi hyny, ninnau y rhai byw, y rhai fydd yn aros, á gipir i fyny gyda hwynt mewn cymylau i gyfarfod â’r Arglwydd yn yr awyr; a felly y byddwn gyda’r Arglwydd yn dragywydd. Am hyny, dyddenwch eich gilydd â’r ymadroddion hyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help