1 Thessaloniaid 5 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-11Pa fodd bynag, am yr amserau a’r prydiau, frodyr, ni raid i chwi ysgrifenu o honof atoch: oblegid gwyddoch eich hunain yn berffaith, bod dydd yr Arglwydd yn dyfod fel lleidr yn y nos. – Pan ddywedant, Tangnefedd a diogelwch, yna y mae dinystr disymwth yn dyfod àr eu gwarthaf, fel gwewyr esgor àr un à fo beichiog; a ni ddiangant hwy ddim. Ond chychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y dalio y dydd hwnw chwi megys lleidr. Chychwi oll, plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid plant y nos, na phlant y tywyllwch ydym ni. Am hyny ynte, na chysgwn, megys ereill; eithr byddwn effro a gwyliadwrus. Canys y rhai à gysgant, y nos y cysgant; a’r rhai à feddwant, y nos y meddwant. Eithr nyni, gàn ein bod yn blant y dydd, byddwn wyliadwrus, wedi ymwisgo â dwyfroneg ffydd a chariad; a gobaith iechydwriaeth yn lle helm. Canys ni phènododd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iechydwriaeth, drwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn á fu farw drosom, fel pa un bynag á wnelom ai bod yn effro ai cysgu, y byddom byw gydag ef. Oherwydd paham, dyddenwch eich gilydd, ac adeiledwch eich gilydd, megys hefyd yr ydych yn gwneuthur.

12-22Ac yr ydym yn attolygu i chwi, frodyr, gydnabod y rhai y sydd yn llafurio yn eich plith, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich addysgu; a gwneuthur cyfrif mawr o honynt mewn cariad èr mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain. Hefyd, yr ydym yn eich cynghori, frodyr, rhybyddiwch y rhai afreolus, dyddenwch yr isel eu hysbryd, cynneliwch y gweiniaid, byddwch ymaröus wrth bawb. – Gwyliwch na thalo neb ddrwg am ddrwg i neb, eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sy dda, tuagat eich gilydd, a thuagat bawb. Byddwch lawen yn wastadol. – Gweddiwch yn ddibaid. – Yn mhob dim diolchwch; canys hyn yw ewyllys Duw, drwy Grist Iesu, tuag atoch chwi. – Na ddiffoddwch yr Ysbryd. – Na ddirmygwch broffwydo. – Profwch bob peth. – Deliwch yr hyn sy dda. – Ymgedẅwch rhag pob rhith drygioni.

23-28A Duw yr heddwch ei hun á’ch santeiddio yn gwbl oll; a chadwer eich holl ddyn, yr ysbryd, a’r enaid, a’r corff, yn ddiargyhoedd, hyd ddyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist. Fyddlawn yw yr hwn à’ch galwodd; yr hwn hefyd á’i gwna. Frodyr, gweddiwch drosom. – Anerchwch y brodyr oll â chusan santaidd. Yr wyf yn eich tyngedu drwy yr Arglwydd, ar ddarllen y llythyr hwn i’r holl frodyr santaidd. Rhad ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help