1-40Dilynwch gariad, a thaerddeisyfwch ddoniau ysbrydol, ond yn enwedig fel y proffwydoch. Canys yr hwn sydd yn llefaru mewn iaith ddyeithr, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, ond wrth Dduw; canys nid oes neb yn ei ddeall: èr hyny, drwy yr Ysbryd, y mae efe yn llefaru dirgeledigaethau. Eithr yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn llefaru wrth ddynion èr adeiladaeth, a chynghor, a chysur. Yr hwn sydd yn llefaru mewn iaith ddyeithr, sydd yn ei adeiladu ei hunan; ond yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn adeiladu y gynnulleidfa. Mi á fynwn, yn wír, pe baech chwi oll yn llefaru mewn ieithoedd dyeithr; ond yn hytrach broffwydo o honoch: canys mwy yw yr hwn sydd yn proffwydo, na’r hwn sydd yn llefaru mewn ieithoedd dyeithr, oddieithr, yn wir, iddo gyfieithu, fel y derbynio y gynnulleidfa adeiladaeth. Canys yn awr, frodyr, pe deuwn atoch gàn lefaru mewn ieithoedd dyeithr, pa lesâad á wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych yn ddealladwy; naill ai drwy ddadguddiad, ai drwy wybodaeth, ai drwy broffwydoliaeth, ai drwy athrawiaeth? Yr un modd, pethau difywyd, yn rhoddi sain; pynag ai pibell ai telyn; oni roddant wahaniaeth i’r nodau, pa fodd y gwybyddir yr hyn à chwareuir àr y bibell, neu àr y delyn? Ac, am hyny, os yr udgorn à rydd sain annealladwy, pwy á ymbarotöa i’r frwydr? Felly chwithau, oni roddwch â’r tafod ymadrodd dealladwy, pa fodd y gwybyddir yr hyn à lefarir? Am hyny, chwi á fyddwch yn llefaru wrth yr awyr. Y mae cynnifer, ysgatfydd, o fathau o ieithoedd yn y byd, a nid oes un o honynt heb arwyddocâad, eto os na wn i ystyr yr iaith, myfi a fyddaf i’r hwn sydd yn llefaru yn estron, a’r hwn sydd yn llefaru á fydd i minnau yn estron. Am hyny, chwithau hefyd, gàn eich bod yn awyddus i ddoniau ysbrydol, ceisiwch hwynt, fel y galloch fod yn helaethion tuag at adeiladaeth y gynnulleidfa. Oherwydd paham, yr hwn sydd yn gweddio mewn iaith ddyeithr, gweddied àr iddo allu cyfieithu. Canys os gweddiaf mewn iaith ddyeithr, y mae fy ysbryd yn gweddio; ond y mae fy neall yn ddiffrwyth. Beth ynte á wneir? Mi á weddiaf â’r ysbryd, ond mi á weddiaf â deall hefyd: mi á ganaf â’r ysbryd, ond mi á ganaf â deall hefyd. Os amgen, pan fendithiech â’r ysbryd, pa fodd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle yr annysgedig, yr Amen àr dy ddodiad diolch, gàn nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd? Canys yr ydwyt ti, yn ddiau, yn diolch yn dda; ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu. Yr wyf yn diolch i Dduw, gàn lefaru mewn mwy o ieithoedd dyeithr na phawb o honoch; eto yn y gynnulleidfa, gwell genyf lefaru pumm brawddeg a bod fy meddwl yn cael ei ddeall, fel yr addysgwyf ereill hefyd, na myrddiwn o frawddegau mewn iaith ddyeithr. Frodyr, na fyddwch blant mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch fabanod, a mewn deall byddwch wŷr cyflawnoed. Yn y gyfraith y mae yn ysgrifenedig, “Yn ddiau, â thafodau ereill, ac â gwefusau ereill, y llefaraf wrth y bobl hyn; eto hyd y nod y pryd hyny ni wrandawant arnaf, medd yr Arglwydd.” Am hyny, ieithoedd dyeithr ydynt èr arwydd; nid i rai yn credu, ond i rai digred; eithr proffwydoliaeth sydd èr arwydd, nid i rai digred, ond i rai yn credu. Gan hyny, pe bai yr holl gynnulleidfa gwedi dyfod yn nghyd i’r un lle, a llefaru o bawb mewn ieithoedd dyeithr; ac i rai annysgedig neu ddigred ddyfod i fewn, oni ddywedant eich bod yn ynfydu? Eithr os proffwyda pawb, a dyfod o un digred neu annysgedig i fewn, efe á geryddir gàn bawb, efe á chwilir gàn bawb; dirgelion ei galon ef á wneir yn amlwg: a felly, gàn syrthio àr ei wyneb, efe á addola Dduw, gàn gyhoeddi bod Duw mewn gwirionedd yn eich plith chwi. Beth, gàn hyny, ydyw, frodyr? Pan ddeloch yn nghyd, y mae gàn bob un o honoch salm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae ganddo iaith ddyeithr, y mae ganddo ddadguddiad, y mae ganddo gyfieithiad! Gwneler pob peth èr adeiladaeth. Ac os llefara neb mewn iaith ddyeithr, bydded bob yn ddwy, neu o’r mwyaf bob yn dair brawddeg, ac àr wahan; a chyfieithed un. Eithr oni bydd cyfieithydd, tawed yn y gynnulleidfa; eto llefared wrtho’ ei hun, ac wrth Dduw. A llefared dau broffwyd neu dri, a barned y lleill. Eithr, os dadguddir dim i un arall à fo yn eistedd yno, tawed y cyntaf. Canys chwi á ellwch oll broffwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac y cysurer pawb. Canys y mae ysbrydoedd y proffwydi yn ddarostyngedig i’r proffwydi. Heblaw hyny, nid yw Duw awdur annghydfod, ond tangnefedd. Fel yn holl gynnulleidfäoedd y saint, tawed eich gwragedd yn y cynnulleidfäoedd: canys ni chaniatawyd iddynt lefaru, ond rhaid iddynt fod yn ddarostyngedig; megys y mae y gyfraith hefyd yn gorchymyn. Ac os mỳnant ddysgu dim, ymofynant â’u gwŷr gartref; oblegid anweddaidd yw i wragedd lefaru yn y gynnulleidfa. Beth! ai oddwrthych chwi yr aeth gair Duw allan? neu ai atoch chwi yn unig y daeth efe? Od oes neb yn broffwyd mewn gwirionedd, neu yn ddyn ysbrydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifenu atoch, mai gorchymynion yr Arglwydd ydynt. Ac od yw neb heb wybod, bydded heb wybod. Am hyny, frodyr, byddwch awyddus i broffwydo; a na waherddwch lefaru mewn ieithoedd dyeithr. Gwneler pob peth yn weddaidd, a mewn trefn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.