1-14A rhoddwyd i mi gorsen debyg i lath, gàn ddywedyd, Cyfod, a mesura deml Duw, a’r allor, a’r rhai sydd yn addoli wrthi; ond y cyntedd sydd o’r tu allan i’r deml, bwrw allan, ac na fesura ef; oblegid efe á roddir i’r Cenedloedd, a’r ddinas santaidd á fathrant hwy ddeufis a deugain. A mi á roddaf awdurdod i’m dau dyst, a hwy á brophwydant fil a deucant a thriugain o ddyddiau, gwedi eu gwisgo â sachlian. Y rhai hyn yw y ddwy oleẅwydden, a’r ddau lamp, y sydd yn sefyll gèr bron Arglwydd y ddaiar. Ac os mỳn neb wneuthur niwed iddynt, tân á ddaw allan o’u genau hwynt, ac á ddyfetha eu gelynion; ac os mỳn neb wneuthur iddynt niwed, felly y mae yn rhaid ei ladd ef. Y mae gàn y rhai hyn awdurdod i gau y nef, fel na wlawio hi yn nyddiau eu prophwydoliaeth hwynt; ac awdurdod sy ganddynt àr y dyfroedd iddeu troi hwynt yn waed, ac i daro y ddaiar â phob rhyw bla, càn fynyched ag y mỳnont. A phan ddarfyddo iddynt orphen eu tystiolaeth, y bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod i fyny o’r pwll diwaelod, á ryfela â hwynt, ac á’u gorchfyga, ac á’u lladd hwynt. A’u cyrff hwynt á orwedd àr heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysbrydol á elwir Sodoma a’r Aifft; lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni. A rhai o blith amryw bobloedd, a llwythau, ac ieithoedd, a chenedloedd á edrychant àr eu cyrff hwynt dridiau a hanner, ac ni adawant roddi eu cyrff hwy mewn beddau. A’r rhai sydd yn trigo àr y ddaiar á lawenychant o’u plegid, ac á ymhyfrydant, ac á anfonant roddion iddeu gilydd; oblegid yr oedd y ddau brophwyd hyn yn poeni y rhai oedd yn trigo àr y ddaiar. Ac àr ol y tridiau a hanner, anadl einioes oddwrth Dduw á aeth i fewn iddynt hwy, a hwy á safasant àr eu traed; ac ofn mawr á syrthiodd àr y rhai à’u gwelodd hwynt. A hwy á glywsant lef uchel o’r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. A hwy á aethant i fyny i’r nef mewn cwmwl, a’u gelynion á edrychasant arnynt. Ac yn yr awr hòno y bu daiargryn fawr; a degfed ran y ddinas á syrthiodd; a dyfethwyd gàn y ddaiargryn saith mil o enwau dynion; a’r gweddill á ddychrynasant, ac á roisant ogoniant i Dduw y nef. Yr ail wae á aeth heibio: wele, y mae y drydedd wae yn dyfod àr frys.
15-19A’r seithfed angel á udganodd; a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a’i Grist ef; ac efe á deyrnasa yn oes oesoedd. A’r pedwar henuriad àr ugain, y rhai á eisteddent gèr bron Duw àr eu gorseddfeinciau, á syrthiasant àr eu hwynebau ac á addolasant Dduw, gàn ddywedyd, Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn wyt, a’r hwn oeddit, oblegid i ti gymeryd dy allu mawr, a dechreu teyrnasu. A’r cenedloedd á ddigiasant; a daeth dy ddigder di, ac amser y meirw i gael eu barnu, ac i roi gobr i’th weision y prophwydi ac i’r saint, ac i’r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion; ac i ddyfetha y rhai sydd yn dyfetha y ddaiar. Ac agorwyd teml Duw yn y nef, ac arch cyfammod yr Arglwydd á welwyd yn ei deml ef: a bu mellt, a lleisiau, a tharanau, a daiargryn, a chenllysg mawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.