1-14Y drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod atoch: yn ngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob peth. Mi á ddywedais o’r blaen, ac yn awr yr ydwyf yn rhagrybyddio yr ail waith, (fel pe bawn yn bresennol, èr fy mod eto yn absennol,) y rhai à bechasant o’r blaen, a phawb ereill, pan ddeuaf drachefn, nad arbedaf; gàn eich bod yn ceisio prawf o Grist yn llefaru trwof fi: (yr hwn tuag atoch chwi nid yw wan, eithr y sy nerthol yn eich plith chwi; canys èr ei groeshoelio ef o ran gwendid, eto byw ydyw drwy nerth Duw; ac èr ein bod ninnau hefyd yn weiniaid gydag ef, eto byw á fyddwn gydag ef, drwy nerth Duw tuag atoch chwi.) Profwch eich hunain, a ydych yn y ffydd; chwiliwch eich hunain; ai nid ydych yn eich adnabod eich hunain, bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn annghymeradwy? Ond yr wyf yn hyderu y gwybyddwch nad ydym ni yn annghymeradwy. Pa fodd bynag, yr wyf yn gweddio àr Dduw na wneloch chwi ddim drwg; – nid fel yr ymddangosom ni yn gymeradwy; ond fel y gwneloch chwi yr hyn sy dda, èr yn wir i ni fod yn annghymeradwy. Canys ni allwn ni wneyd dim yn erbyn y gwirionedd, ond dros y gwirionedd. Am hyny llawen ydym pan fyddom ni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion: a hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef eich perffeithiad chwi. Oblegid hyn, myfi, yn absennol, ydwyf yn ysgrifenu y pethau hyn; fel, pan fyddwyf bresennol, nad arferwyf lymder, yn ol yr awdurdod à roddes yr Arglwydd i mi èr adeiladaeth, a nid èr dinystr. Bellach, frodyr, byddwch wych: byddwch berffaith; ymgysurwch; syniwch yr un peth; byddwch heddychol; a Duw y cariad a’r heddwch á fydd gyda chwi. Anerchwch eich gilydd â chusan santaidd. Y mae yr holl saint yn eich anerch chwi. Rhad yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymundeb yr Ysbryd Glan, á fyddo gyda chwi oll.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.