2 Timotheus 4 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-22Yr ydwyf yn erchi i ti, yn ngwydd Duw, ac Iesu Grist, yr hwn á farna y byw a’r meirw, yn ei ymaddangosiad a’i deyrnas; cyhoedda y gair, bydd daer mewn amser, allan o amser, argyhoedda, cerydda, cynghora, gyda phob hirymaros ac athrawiaeth. Canys daw yr amser, pryd na ddyoddefont athrawiaeth iachus; eithr, gàn fod a’u clustian yn merwino, hwynthwy, yn ol eu chwantau eu hunain, á bentỳrant iddynt eu hunain athrawon; ac oddwrth y gwirionedd y troant ymaith, ac at chwedlau y troant. Eithr gwylia di bob amser; goddef adfyd; gwna waith efengylwr; cyflawna dy weinidogaeth. Canys myfi àr fyrder á aberthir, ac amser fy ymddattodiad i á nesâodd. Mi á ymdrechais yr ymdrech dda, mi á orphenais yr yrfa, mi á arosais yn ffyddlawn; o hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder yn nghadw i mi, yr hon á rydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, i mi yn y dydd hwnw; a nid i mi yn unig, ond hefyd i bawb à garant ei ymddangosiad ef, Brysia ddyfod ataf àr fỳr; canys Demas, wedi caru y byd presennol, á’m gadawodd i, ac á aeth ymaith i Thessalonica; Crescens i Galatia, a Thitus i Ddalmatia. Luwc yn unig y sy gyda mi. Cymer Farc a dwg gyda thi, canys defnyddiol iawn yw efe i mi yn y weinidogaeth. Eithr Tychicus á ddanfonais i Ephesus. Y fantell à adewais i yn Nhroas gyda Charpus, pan ddelych, dwg gyda thi, a’r llyfrau, yn enwedig y memrwn. Alecsander, y gof copr, á wnaeth i mi ddrygau lawer; yr Arglwydd á dâl iddo yn ol ei weithredoedd; yr hwn gochel, canys efe á safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni. Yn fy ateb cyntaf, nid ymddangosodd neb gyda mi, eithr pawb á’m gadawsant. Na rodder hyn yn eu herbyn! Eithr yr Arglwydd á safodd gyda mi, ac á’m nerthodd, fel drwof fi y cyflawn‐fynegid y cyhoeddedigaeth, ac y clywai yr holl Genedloedd; a mi á waredwyd o enau y llew. A’r Arglwydd á’m gweryd i rhag pob gwaith drwg, ac á’m ceidw iddei deyrnas nefol: i’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Anerch Brisca ac Acwila, a theulu Onesiphorus. Erastus á arosodd yn Nghorinth; ond Trophimus á adewais yn Miletus yn glaf. Brysia ddyfod cyn y gauaf. Y mae Eubuwlus yn dy anerch, a Phuwdens, a Linus, a Chlawdia, a’r brodyr oll. Yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda’th ysbryd di. Rhad fyddo gyda chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help