1-21Yna yn mhen pedair blynedd àr ddeg, mi á aethym drachefn i fyny i Gaersalem, gyda Barnabas; gán gymeryd Titus hefyd gyda mi. A mi á aethym i fyny drwy ddadguddiad, ac á fynegais iddynt yr efengyl, yr hon yr wyf yn ei chyhoeddi i’r Cenedloedd: ond o’r neilldu i’r rhai cyfrifol; rhag, ysgatfydd, i mi redeg, neu ddarfod i mi redeg yn ofer. Pa fodd bynag, ni chymhellwyd Titus chwaith, yr hwn oedd gyda mi, èr ei fod yn Roegwr, i gymeryd enwaedu arno, hyd y nod oherwydd y geufrodyr à ddygasid i fewn yn ddirgel; (y rhai á ddaethant i fewn i ysbio ein rhyddid ni, yr hwn sy genym drwy Grist Iesu, fel y caethiwent ni;) i ba rai nid ymroisom drwy ymostyngiad, na ddo dros awr, fel yr arosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi. Hefyd, gàn y rhai cyfrifol, ni chefais i ddim: (pa fath gynt oeddynt, nid yw ddim i mi: nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn. Canys y rhai cyfrifol ni chyfranasant ddim i mi.) Eithr, yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megys am efengyl yr enwaediad i Bedr; (canys yr hwn á effeithiodd yn Mhedr èr mwyn apostoliaeth yr enwaediad, á effeithiodd ynof finnau hefyd èr mwyn y Cenedloedd:) hyd y nod Iago, a Chephas, ac Ioan, y rhai á gyfrifid yn golofnau, gwedi canfod o honynt y rhad à roddwyd i mi, á roisant i mi ac i Farnabas ddeheulawiau cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenedloedd, a hwythau at yr enwaediad; gàn ddymuno, yn unig, àr fod i ni gofio y tylodion, yr hyn hefyd y bum i ddiwyd iddei wneuthur. Hefyd, pan ddaeth Pedr i Antiochia, mi á’i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod iddei feio. Oblegid cyn dyfod rhai oddwrth Iago, efe á fwytâodd gyda’r Cenedloedd; ond wedi iddynt hwy ddyfod, efe á giliodd, ac á’i neillduodd ei hun oddwrthynt, gàn ofni y rhai oedd o’r enwaediad. A’r Iuddewon ereill hefyd á gydragrithiasant âg ef, nes y dygwyd ymaith hyd y nod Barnabas gàn eu rhagrith hwynt. Eithr pan welais i nad oeddynt yn rhodio yn uniawn, yn ol gwirionedd yr efengyl, mi á ddywedais wrth Bedr, yn eu gwydd hwynt oll, – Os wyt ti, a thi yn Iuddew, yn byw fel y Cenedloedd, a nid fel yr Iuddewon, paham yr wyt ti yn cymhell y Cenedloedd i fyw yn Iuddewaidd? Nyni, y rhai wrth naturiaeth ydym Iuddewon, a nid yn bechaduriaid o’r Cenedloedd, yn gwybod nad ydys yn cyfiawnâu dyn drwy gyfraith gweithredoedd, ond yn unig drwy ffydd Iesu Grist; ninnau hefyd á gredasom yn Iesu Grist, fel yn cyfiawnâer drwy ffydd Crist, a nid drwy gyfraith gweithredoedd; canys drwy gyfraith gweithredoedd, ni chyfiawnêir un cnawd. Ond os wrth geisio ein cyfiawnâu drwy Grist, y caed ninnau hefyd yn bechaduriaid, a ydyw Crist am hyny yn weinidog pechod? Na ato Duw. Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau à ddystrywiais, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr. Hefyd, yr wyf fi drwy gyfraith wedi marw i gyfraith, fel y byddwn fyw i Dduw. Mi á groeshoeliwyd gyda Christ. Er hyny byw ydwyf; eto nid myfi mwyach, ond Crist sydd yn byw ynof fi; canys y bywyd yr ydwyf yr awrhon yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf drwy ffydd Mab Duw, yr hwn á’m carodd, ac á’i dodes ei hun drosof fi. Nid wyf yn dirymu rhadioni Duw. Canys os drwy gyfraith y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.