1-33O na chyd‐ddygech â mi ychydig yn fy ffolineb: ïe, yn wir, cyd‐ddygwch â mi; canys eiddigus wyf drosoch ag eiddigedd duwiol; oblegid myfi á’ch dyweddiais chwi i un gwr, i’ch cyflwyno chwi yn forwyn bur i Grist. Ond y mae arnaf ofn, rhag, mewn modd yn y byd, megys yr hudodd y sarff Efa drwy ei chyfrwysdra, felly bod i’ch meddyliau chwithau gael eu llygru oddwrth y cywirdeb y sy ddyledus i Grist. Canys, yn wir, os ydyw yr hwn à ddaeth yn pregethu Iesu arall yr hwn ni phregethasom ni; neu, os ydych yn derbyn Ysbryd arall yr hwn nis derbyniasoch; neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch; iawn y gallech gyd‐ddwyn ag ef. Canys yr ydwyf yn cyfrif na bum i, mewn dim, yn ol i’r rhai pènaf o’r Apostolion. Ac os ydwyf hefyd yn annghyfarwydd àr ymadrodd, eto nid mewn gwybodaeth: eithr, àr y cyfan, nyni á eglurâwyd i chwi yn mhob dim. A wneuthym i bechod wrth fy ngostwng fy hun, èr mwyn eich dyrchafu chwi; oblegid pregethu o honof i chwi efengyl Duw yn rad? Cynnulleidfäoedd ereill á ysbeiliais, gàn gymeryd cyflog ganddynt i’ch gwasanaethu chwi; canys pan oeddwn yn bresennol gyda chwi, ac arnaf eisieu, ni ormesais àr neb; ond yr hyn oedd yn eisieu arnaf á ddiwallodd y brodyr o Facedonia: ac yn mhob dim myfi á gedwais, ac á gadwaf fy hun rhag pwyso arnoch. Fel y mae gwirionedd Crist ynof, nid attelir fy ymffrost hwn yn ngwledydd Achaia. Paham? ai am nad wyf yn eich caru chwi? Duw á’i gŵyr, Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, á wnaf hefyd, fel y tòrwyf ymaith achlysur oddwrth y sawl sydd yn ewyllysio cael achlysur; fel yn yr hyn y maent yn ymffrostio, y cair hwynt hyd y nod fel ninnau. Canys y cyfryw ydynt Apostolion gau, gweithwyr twyllodrus, yn ymddangos yn rhith Apostolion Crist. A nid rhyfedd; canys y mae Satan ei hun yn ymddangos yn rhith angel goleuni. Gan hyny, nid rhyfeddod mawr yw, os yw ei weinidogion hefyd yn ymrithio fel gweinidogion cyfiawnder; y rhai y bydd eu diwedd yn ol eu gweithredoedd. Yn mhellach, meddaf, na thybied neb fi yn ffol, eithr, os yn amgen, o’r hyn lleiaf fel ffol cyd‐ddygwch â mi, fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig. Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd yn hyn o fost hyderus, nid wyf yn ei ddywedyd yn ol yr Arglwydd; ond megys mewn ffolineb. Gan fod llawer yn ymffrostio yn ol y cnawd, minnau á ymffrostiaf hefyd. Canys, gàn fod eich hunain yn synwyrol, yr ydych yn cyd‐ddwyn â ffyliaid yn llawen. Canys os bydd i un eich dwyn yn gaeth, yr ydych yn goddef; os bydd i un eich anrheithio, os bydd i un gymeryd eich eiddo, os bydd i un ymddyrchafu, os bydd i un eich taro àr eich wyneb, – am anmharch yr wyf yn dywedyd, megys, mai gweiniaid ydym. Eithr, yn mha beth bynag y mae neb yn hy, (yr wyf yn dywedyd yn ffol,) hy wyf finnau hefyd. Ai Hebrëaid ydynt hwy? felly finnau. Ai Isräeliaid ydynt hwy? felly finnau. Ai had Abraham ydynt hwy? felly finnau. Ai gweinidogion i Grist ydynt hwy? (yr wyf yn dywedyd fel un ffol,) yr wyf fi yn uwch na hwynt: mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialenodiau dros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych; gàn yr Iuddewon, bumwaith, y derbyniais ddeugain gwialenod ond un; teirgwaith ym curwyd â gwiail, unwaith ym llabyddiwyd, teirgwaith y tòrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bum yn y dyfnfor. Mewn teithiau yn fynych, mewn peryglon oddwrth afonydd, mewn peryglon oddwrth ysbeilwyr, mewn peryglon oddwrth fy nghenedl fy hun, mewn peryglon yn y ddinas, mewn peryglon yn yr anialwch, mewn peryglon àr y môr, mewn peryglon yn mhlith brodyr gau. Mewn llafur a lludded; mewn anhunau yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni. Heblaw y blinderau hyn oddi allan, yr hyn sydd yn gwasgu arnaf beunydd, y gofal dros yr holl gynnulleidfäoedd. Pwy sy wan, nad wyf finnau wan? Pwy á dramgwyddir, nad wyf finnau yn llosgi? Os rhaid ymffrostio, mi á ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i’m gwendid. Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn sy fendigedig yn dragywydd, á ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd. Yn Namascus, y llywydd dan Aretas y brenin, gàn amcanu fy nal i, á wyliodd ddinas y Damasciaid; ond mi á ollyngwyd mewn basged drwy ffenestr yn y mur, ac á ddiengais o’i ddwylaw ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.