Rhufeiniaid 6 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-13Beth, gàn hyny, á ddywedwn ni? ai, Paräwn yn wastad mewn pechod, fel yr amlâo rhad? Na ato Duw. A ninnau gwedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef? Oni wyddoch chwi, am gynnifer o honom ag á drochwyd i Grist Iesu, ein trochi ni iddei farwolaeth ef? Claddwyd ni, gàn hyny, gydag ef drwy y trochiad i’r farwolaeth hòno; fel megys ag y cyfodwyd Crist o feirw drwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb buchedd. Canys os gwnaed ni yn gydblanigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef; felly y byddwn hefyd i gyffelybiaeth ei adgyfodiad ef. Gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef, èr mwyn dirỳmu corff pechod, fel rhagllaw na wasanaethom bechod: canys y mae yr hwn á fu farw, gwedi ei ryddâu oddwrth bechod. Ac os buom feirw gyda Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef. Gan wybod nad yw Crist, wedi ei gyfodi oddwrth y meirw, yn marw mwyach; nid arglwyddiaetha marwolaeth arno ef mwyach; canys fel y bu efe farw, efe á fu farw unwaith dros bechod; a fel y mae yn byw, byw y mae dros Dduw. Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod; eithr yn fyw i Dduw, drwy Grist Iesu. Na theyrnased pechod, gàn hyny, yn eich corff marw chwi, drwy ufyddâu o honoch iddo. A na roddwch eich aelodau yn arfau annghyfiawnder i bechod; eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megys rhai byw oddwrth y meirw; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.

14-23Yn mhellach, nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi; oblegid nid ydych chwi dàn gyfraith, eithr dàn rad. Beth, gàn hyny, á ddywedwn ni? A bechwn ni o herwydd nad ydym dàn gyfraith; eithr dàn rad? Na ato Duw. Oni wyddoch chwi, mai i bwybynag yr ydych yn rhoddi eich hunain yn weision, drwy ufydd‐dod; eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufyddâu iddo felly; pa un bynag ai i bechod i farwolaeth, ynte i ufydd‐dod i gyfiawnder. Ond i Dduw y bo’r diolch, èr eich bod chwi gynt yn weision i bechod; èr hyny ufyddâu o honoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth i’r hwn ych traddodwyd chwi. A gwedi eich rhyddâu oddwrth bechod, chwi á wnaethwyd yn weision i gyfiawnder. (Yn ol dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi.) Canys megys y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i weithredu anwiredd; felly yr awrhon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder, i weithredu santeiddrwydd. Canys pan oeddych yn weision pechod, rhyddion oeddych oddwrth gyfiawnder. A pha ffrwyth oedd i chwi y pryd hyny, o’r pethau y mae arnoch yr awrhon gywilydd o’u plegid? canys canlyniad y pethau hyny yw marwolaeth. Eithr yr awrhon, wedi eich rhyddâu oddwrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth i santeiddrwydd; a’r diwedd yn fywyd tragwyddol. Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr rhadionus ddawn Duw yw bywyd tragwyddol, drwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help