1-21Am hyny, frodyr, yr wyf yn attolwg i chwi, èr tosturiaethau Duw, roddi o honoch eich cyrff yn aberth byw, santaidd, cymeradwy gàn Dduw, yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi. A na chydymffurfiwch â’r byd hwn, eithr ymnewidiwch drwy adnewyddiad eich meddwl; fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw. Hefyd, drwy y rhad à roddwyd i mi, yr wyf yn erchi i bob un o honoch, na thybio yn uwch am dano ei hun nag y dylai dybied; eithr tybied i iawndybied, fel y rhànodd Duw i bob un gyfran o ffydd. Canys, megys mewn un corff y mae genym aelodau lawer, ond nid oes gàn yr holl aelodau yr un swydd; felly ninnau, y llawer, ydym un corff dàn Grist, a phob un yn aelodau y naill i’r llall. Gan fod i ni, gàn hyny, ddoniau yn amrywio yn ol y rhad à roddwyd i ni; – pa un bynag ai proffwydoliaeth, gwnawn hyny yn ol y mesur ffydd; os swydd weinidogaethol, yn y swydd hòno; neu os dysgawdwr, wrth ddysgu; a’r cynghorwr, mewn cynghor. Yr hwn sydd yn cyfrànu, gwnaed hyny yn anhunangar; yr hwn sydd yn blaenori, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarâu, gyda sirioldeb. Bydded cariad yn ddiragrith. Casêwch y drwg; glynwch wrth y da. Mewn brawdgarwch, byddwch garedig i’ch gilydd; mewn parch, yn blaenori eich gilydd. Nid yn ddiog yn eich gorchwyliaeth. Byddwch wresog yn yr ysbryd: yn ddyfal yn gwasanaethu yr Arglwydd. Byddwch lawen mewn gobaith, yn ddyoddefgar mewn cystudd, yn dyfalbarâu mewn gweddi. Cyfrenwch at gyfreidiau y saint. Dylynwch lettygarwch. Bendithiwch y rhai sydd yn eich erlid; bendithiwch, a na felldithiwch. Byddwch lawen gyda ’r rhai sy lawen, ac wylwch gyda ’r rhai sydd yn wylo. Byddwch o’r un duedd tuagat eich gilydd. Na roddwch eich meddwl àr uchel bethau; eithr byddwch gydostyngedig â’r rhai iselradd. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain. Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yn ngolwg pob dyn. Yr hyn à berthyn i chwi yw, byddwch heddychlawn â phob dyn, os yw alledig. Nac ymddielwch, rai anwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint Duw; canys y mae yn ysgrifenedig, “I mi y perthyn dial; myfi á dalaf, medd yr Arglwydd.” Am hyny, os dy elyn á newyna, portha ef: os sycheda, dyro iddo ddiod: canys wrth wneuthur hyn, ti á bentỳri farwor tanllyd àr ei ben ef. Na orchfyger di gàn ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni drwy ddaioni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.