1 Corinthiaid 10 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-29A ni fỳnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, bod ein tadau oll dàn y cwmwl, a’u myned oll drwy y môr; a’u trochi hwynt oll i Foses, yn y cwmwl ac yn y môr; a bwyta o bawb o honynt yr un bwyd ysbrydol; ac yfed o bawb o honynt yr un ddiod ysbrydol; (canys hwy á yfasant o’r graig ysbrydol, oedd yn eu canlyn hwynt, a’r graig hòno oedd Crist.) Eto, ni bu Duw foddlon i’r rhàn fwyaf o honynt; canys cwympwyd hwynt yn y diffeithwch. A’r pethau hyn á wnaed yn gysgodau i ni, fel na byddem yn chwennychwyr drygau, megys y chwennychasant hwy. A na fyddwch eilunaddolwyr, megys y bu rhai o honynt hwy; fel y mae yn ysgrifenedig, “Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed, ac á gyfodasant i ddawnsio.” A na phuteiniwn, fel y puteiniodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd, mewn un dydd, dair mil àr ugain. A na themtiwn Grist, megys y temtiodd rhai o honynt hwy, ac a’u dyfethwyd gàn seirff. A na rwgnechwch, megys y grwgnachodd rhai o honynt hwy, ac á’u dyfethwyd gàn y dinystrydd. A’r pethau hyn oll á ddygwyddasant iddynt hwy megys cysgodau; ac á ysgrifenwyd èr rhybydd i ninnau, àr y rhai y daeth terfynau yr oesoedd. Am hyny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. Ni ddaeth arnoch yr un brofedigaeth, ond y fath ag á berthyn i ddyn: a ffyddlawn yw Duw, yr hwn ni âd eich profi uwchlaw yr hyn à alloch; eithr á wna, yn nghyd â’r brofedigaeth, ddiangfa, fel y galloch ei dwyn. Oherwydd paham, fy ngharedigion, ffowch oddwrth eilunaddoliaeth. Dywedyd yr wyf fel wrth rai synwyrol: bernwch chwi beth yr wyf yn ei ddywedyd. Cwpan y fendith, yr hon á fendigwn; onid cydgyfranogiad o waed Crist ydyw? Y dorth, yr hon yr ydym yn ei thòri; onid cydgyfranogiaid o gorff Crist ydyw? Am mai un dorth y sy, nyni, y llawer, un corff ydym: canys yr ydym ni oll yn cyfranogi o’r un dorth hòno. Edrychwch àr Israel yn ol y cnawd. Onid yw y rhai sydd yn bwyta o’r ebyrth, yn gyfranogion o’r allor? Beth, gàn hyny, yr wyf yn ei haeru? bod eilun yn ddim, neu bod eilunaberth yn ddim? Nage. Ond, y pethau y mae y Cenedloedd yn eu haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu, a nid i Dduw. Ni fỳnwn i chwi fod yn gyfranogion â’r cythreuliaid. Ni ellwch yfed o gwpan yr Arglwydd, ac o gwpan cythreuliaid: ni ellwch fod yn gyfranogion o fwrdd yr Arglwydd, ac o fwrdd cythreuliaid. Ai gỳru yr Arglwydd i eiddigedd yr ydym? A ydym ni yn gryfach nag ef? Pob peth sy gyfreithlawn, ond nid yw pob peth yn llesol; pob peth sy gyfreithlawn, ond nid yw pob peth yn adeiladu. Na cheisied neb yr eiddo ei hun yn unig, ond yr eiddo ei gymydog hefyd. Bethbynag á werthir yn y gigfa, bwytewch, heb ymholi dim o achos cydwybod; “canys eiddo yr Arglwydd y ddaiar, a’i chyflawnder.” Ac os bydd i neb o’r rhai digred eich gwahodd, a chwithau yn ewyllysio myned, bethbynag á ddoder gèr eich bron, bwytewch; heb ymholi dim o achos cydwybod. Eithr os dywed neb wrthych, Eilunaberth yw hwn; na fwytewch, èr mwyn yr hwn à’i dangosodd, ac èr mwyn cydwydod. Cydwybod, meddaf, nid yr eiddot dy hun, ond yr eiddo y llall.

30Ond paham y bernir fy rhyddid i gàn gydwybod un arall? Eithr os wyf fi, yn ddiolchgar, yn cymeryd cyfran, paham ym ceblir, am yr hyn yr wyf yn rhoddi diolch am dano?

31-33Pa un bynag, gàn hyny, ai bwyta, ai yfed, ai bethbynag á wneloch, gwnewch bob peth èr gogoniant i Dduw. Byddwch ddiachos tramgwydd, i’r Iuddewon, ac i gynnnlleidfa Duw. Megys yr ydwyf finnau yn rhyngu bodd i bawb yn mhob peth; heb geisio fy llesâad fy hun, ond yr eiddo y llawer, fel yr achuber hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help