1-16Deisyf, gàn hyny, arnoch yr wyf fi, y carcharor dros yr Arglwydd, àr rodio o honoch yn addas i’r alwedigaeth, â’r hon ych galwyd, gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder; gyda hirymaros, gàn gyd‐ddwyn â’ch gilydd mewn cariad; gàn ymegnio yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd efo rhwymyn tangnefedd. Un corff ac un Ysbryd y sy; megys hefyd ych galwyd âg un gobaith eich galwedigaeth: un Arglwydd, un ffydd, un trochiad; un Duw a Thad pawb, yr hwn sy goruwch pawb, a chyda phawb, ac yn mhawb o honoch. Eithr i bob un o honom y rhoddwyd rhad, yn ol mesur dawn Crist; (Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, “Wedi iddo ddyrchafu i’r uchelder, efe á gaethgludodd gaethiwed, ac á roddes roddion i ddynion.” A hyn – “Wedi iddo ddyrchafu,” beth yw, oddieithr darfod iddo hefyd ddisgyn i barthau isaf y ddaiar? Yr hwn á ddisgynodd, yw yr hwn á ddyrchafodd hefyd goruwch yr holl nefoedd, fel y dylenwai bob peth.) Ac efe á roddes rai yn Apostolion; a rhai, yn brophwydi; a rhai, yn efengylwyr; a rhai, yn fugeiliaid ac yn athrawon; èr mwyn cymhwyso y saint hyn i waith y weinidogaeth, èr adeiladaeth corff Crist: hyd oni chyrhaeddom oll hyd at undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw; hyd at wr perffaith; hyd at fesur maintioli cyflawnder Crist: fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman ac yn cael ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth drwy hoced dynion, drwy gyfrwysdra èr cynllwyn i dwyllo: eithr gàn ddywedyd y gwir mewn cariad, cynnyddu o honom oll iddo ef, yr hwn yw y Pen, sef Crist; o’r hwn, y mae yr holl gorff wedi ei gymhwys gydgyssylltu, a’i grynoi drwy wasanaeth pob cymal, yn ol ei rymus weithrediad, yn ol mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, èr ei adeiladaeth ei hun mewn cariad.
17-24Hyn, gàn hyny, yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae y Cenedloedd ereill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl; wedi tywyllu eu deall; wedi ymddyeithrio oddwrth fuchedd Duw, drwy yr anwybodaeth y sydd ynynt, oblegid dallineb eu calon; y rhai, gwedi myned yn ddideimlad, á ymroisant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn orawyddus. Eithr chychwi nid felly y dysgasoch Grist; os bu i chwi, yn wir, ei glywed ef, a chael eich dysgu ganddo ef, fel y mae y gwirionedd yn yr Iesu; – i ddodi o honoch heibio, o ran eich ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sy lygredig yn ol y chwantau twyllodrus; ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl; a gwisgo y dyn newydd, yr hwn, yn ol Duw, á grewyd mewn cyfiawnder a gwir santeiddrwydd.
25-32Oherwydd paham, gàn fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog; oblegid aelodau ydym i’n gilydd. Na phechwch drwy ddigio; na fachluded yr haul àr eich digofaint chwi, a na roddwch gyfle i ddiafol. Yr hwn à ladratâodd, na ladrated mwyach; eithr yn hytrach llafuried, gàn weithio â’i ddwylaw yr hyn sy dda, fel y byddo ganddo beth iddei gyfranu i’r hwn y mae angen arno. Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o’ch genau chwi; ond os bydd unrhyw ymadrodd yn dda èr adeiladaeth angenrheidiol, dywedwch ef, fel y paro les i’r gwrandaẅwyr. A na thristêwch Lan Ysbryd Duw, gàn yr hwn ych seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. Tỳner ymaith o’ch mysg bob chwerwedd, a llid, a digder, a dadwrdd, a chabledd, gyda phob malais. Byddwch garedig i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i’ch gilydd, fel y maddeuodd Duw, èr mwyn Crist, i chwithau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.