Galatiaid 5 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-26Sefwch, gàn hyny, yn y rhyddid â’r hwn y rhyddâodd Crist ni, a na ddalier chwi drachefn yn iau caethiwed. Wele, myfi, Paul, wyf yn dywedyd wrthych, os enwaedir arnoch, ni lesâa Crist ddim i chwi. Ac yr wyf yn tystio, yn mhellach, wrth bob dyn à enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i wneuthur yr holl gyfraith. Chwi á giliasoch ymaith oddwrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnâu drwy y gyfraith; chwi á syrthiasoch ymaith oddwrth rad. Eithr nyni, drwy yr Ysbryd, ydym yn dysgwyl am y gobaith y sydd oddwrth gyfiawnâad drwy ffydd. Canys yn Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond ffydd, yn gweithio drwy gariad. Chwi á redasoch yn dda; pwy á’ch rhwystrodd chwi, fel nad ufyddâech i’r gwirionedd? Y darbwylliad yma ni ddaeth oddwrth yr hwn à’ch galwodd chwi. Y mae ychydig lefain yn lefeinio yr holl does. Yr wyf yn hyderu am danoch drwy yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim yn wahanol i mi; ond yr hwn sydd yn eich blino á ddwg y gosbedigaeth, pwybynag yw. Minnau, frodyr, os enwaediad yr wyf fi yn awr yn ei gyhoeddi, paham ym herlidir eto? Yn wir tỳnwyd ymaith dramgwydd y groes. Mi á fỳnwn, yn wir, pe tòrid ymaith y rhai sydd yn eich gwyrdroi chwi. Canys i ryddid ych galwyd chwi, frodyr; yn unig nac arferwch y rhyddid hwn yn achlysur i’r cnawd; ond drwy gariad, gwasanaethwch eich gilydd. Canys yr holl gyfraith á gyflawnir drwy un gorchymyn, sef drwy hwn, “Câr dy gymydog fel ti dy hun.” Ond os cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddyfether chwi gàn eich gilydd. Dywedyd yr wyf, gàn hyny, rhodiwch yn ol yr Ysbryd, a ni chyflawnwch drachwant y cnawd. Canys y mae y cnawd yn chwennychu yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd, a’r rhai hyn á wrthwynebant eu gilydd, fel nad ydych yn gwneuthur bethbynag á ewyllysiech. Ond os gàn yr Ysbryd ych arweinir, nid ydych dàn gyfraith. Hefyd, amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw, – Puteindra, aflendid, anlladrwydd, delwaddoliaeth, swyngyfaredd, gelyniaethau, cynhenau, gwynfydau, llidiau, ymrysonau, ymbleidiau, ymranau, cenfigenau, llofruddiaethau, meddwodau, gloddestau, a chyffelyb i’r rhai hyn; am y rhai, yr wyf fi yn awr yn rhagddywedyd wrthych, megys y dywedais i chwi hefyd o’r blaen, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Duw. Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, cymedrolder: yn erbyn y cyfryw bethau nid oes cyfraith. Heblaw hyny, y rhai ydynt eiddo Crist, á groeshoeliasant y cnawd, a’i wyniau a’i chwantau. Gan ein bod ni yn byw yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn ol yr Ysbryd. Na fyddwn wagogoneddgar, gàn gyffroi ein gilydd, gàn genfigenu wrth ein gilydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help