Iago 3 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-18Na fyddwch athrawon lawer, fy mrodyr, gàn wybod y derbyniwn ni farnedigaeth fwy. Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Od oes neb heb lithro àr air, gŵr perffaith yw hwnw, yn gallu rheoli yr holl gorff hefyd. Wele yr ydym ni yn rhoddi genfäau yn safnau y meirch, iddeu gwneuthur yn ufydd i ni, ac yr ydym yn troi eu holl gorff hwy oddamgylch. Wele y llongau hefyd, èr eu maint, ac èr eu gỳru gàn wyntoedd creulon, á droir oddamgylch â llyw bychan, llebynag y bo amcan y llywydd yn tueddu: felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, eto y mae yn gweithredu yn rymus. Wele, faint o gynnud y mae ychydig dân yn ei ennyn! A’r tafod, tân ydyw, byd o annghyfiawnder; y mae y tafod wedi ei osod yn mhlith ein haelodau, fel y mae yn halogi yr holl gorff, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam, ac y mae gwedi ei wneuthur yn fflam gàn uffern. A phob rhyw wylltfilod, ac adar, ac ymlusgiaid, a môrolion, á ddofir ac á ddofwyd gàn ddyn; eithr y tafod ni ddichon un dyn ei ddofi; drwg aflywodraethus ydyw, yn llawn gwenwyn marwol. Ag ef yr ydym yn bendithio Duw, sef y Tad; âg ef hefyd yr ydym yn melldithio dynion, à wnaethwyd àr lun Duw. O’r un genau y mae yn dyfod allan fendith a melldith! Fy mrodyr, ni ddylai y pethau hyn fod felly. A ydyw ffynnon, o’r un llygad, yn rhoi dwfr melys a chwerw? A ddichon y pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifaid? neu winwydden, ffigys? Felly ni ddichon un ffynnon roddi dwfr hallt a chroew. A oes wr doeth a deallus yn eich plith? dangosed, drwy ymarweddiad da, ei weithredoedd, mewn mwyneidd‐dra doethineb. Eithr od oes genych genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon, onid ydych yn ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd? Nid yw y doethineb hwn yn disgyn oddi uchod, ond daiarol, anianol, cythreulig yw: canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae annhrefn, a phob gwaith drwg. Eithr y doethineb y sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, gwedi hyny heddychol, boneddigaidd, hawdd ei thrin, yn llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith. A ffrwyth cyfiawnder á heuir mewn heddwch, i’r rhai y sydd yn arfer heddwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help