Dadguddiad 8 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-5A phan agorasai efe y seithfed sel, bu gosteg yn y nef megys dros hanner awr. A mi á welais y saith angel y rhai oedd yn sefyll gèr bron Duw: a rhoddwyd iddynt saith o udgyrn. Ac angel arall á ddaeth ac á safodd gèr bron yr allor â thuser aur ganddo; a rhoddwyd iddo arogldarth lawer, fel yr offrymai efe ef gyda gweddiau yr holl saint, àr yr allor aur, yr hon oedd gèr bron yr orseddfainc. A mwg yr aroglau á esgynodd gyda gweddiau y saint, o law yr angel, i fyny gèr bron Duw. A’r angel á gymerodd y thuser, ac á’i llanwodd hi o dân yr allor, ac á’i bwriodd i’r ddaiar; a bu lleisiau, a tharanau, a mellt, a daiargryn.

6A’r saith angel, y rhai oedd â’r saith udgorn ganddynt, á ymbarotoisant i udganu.

7A’r cyntaf á udganodd; a bu cenllysg a thân, wedi eu cymysgu â gwaed, ac efe á fwriwyd i’r ddaiar; a thraian y ddaiar á losgwyd, a thraian y preniau á losgwyd, a’r holl laswellt á losgwyd.

8-9Ar ail angel á udganodd; a megys mynydd mawr, yn llosgi gàn dân, á fwriwyd i’r môr; a thraian y môr á aeth yn waed; a bu farw traian y creaduriaid oedd yn y môr â byw ynynt; a thraian y llongau á ddinystriwyd.

10-11A’r trydydd angel á udganodd; a syrthiodd o’r nef seren fawr, yn llosgi fel ffagl, a hi á syrthiodd àr draian yr afonydd; ac enw y seren á elwid Wermod; ac aeth traian y dyfroedd yn wermod; a llawer o ddynion á fuont feirw gàn y dyfroedd, oblegid eu myned yn chwerwon.

12-13A’r pedwerydd angel á udganodd; a tharawyd traian yr haul, a thraian y lleuad, a thraian y ser, fel y tywyllwyd eu traian hwynt, ac ni lewyrchodd y dydd dros y drydedd ran, a’r nos yr un ffunud. A mi á edrychais, ac á glywais eryr yn ehedeg yn nghanol y nef, yn dywedyd â llef uchel, Gwae, gwae, gwae, i’r rhai sydd yn trigo àr y ddaiar, rhag lleisiau ereill udgyrn y tri angel, y rhai sydd eto i udganu!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help