Philippiaid 2 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-16Gan hyny, od oes dim dyddanwch yn Nghrist; od oes dim cysur cariad; od oes dim cymdeithas yr Ysbryd; od oes dim cydymdeimlad a thosturiaethau, cyflawnwch fy llawenydd hwn, fel y byddoch o’r un feddwl; a’r un cariad gènych, o un enaid, yn synied yr un peth. Na wneler dim drwy gynhen, neu wagogoniant; eithr, mewn iselfrydedd, cyfrifwch eich gilydd yn well na chwi eich hunain: heb edrych bob un àr ei les ei hun yn unig, ond pob un àr yr eiddo y lleill hefyd. Bydded y meddwl yma ynoch, yr hwn oedd hefyd yn Nghrist Iesu; yr hwn, èr ei fod yn ffurf Duw, ni thrachwennychodd ymddangos mewn mawrhydi dwyfol; eithr á’i dyosgodd ei hun, gàn gymeryd arno ffurf gwas, wedi ei wneuthur mewn cyffelybiaeth dynion: a, gwedi ei gael mewn dull fel dyn, efe á’i darostyngodd ei hun, gàn fod yn ufydd hyd angeu, ïe, angeu y groes. Ac oherwydd hyn, Duw á’i tradyrchafodd yntau, ac á roddes iddo enw yr hwn sy goruwch pob enw: fel yn enw Iesu y plygai pob glin; o’r rhai yn y nefoedd, ac àr y ddaiar, a thàn y ddaiar; ac y cyffesai pob tafod bod Iesu Grist yn Arglwydd, èr gogoniant Duw Dad. Am hyny, fy ngharedigion, gàn ddarfod i chwi bob amser ufyddâu, nid yn fy ngŵydd yn unig, ond yn awr yn fwy o lawer yn fy absennoldeb; gweithiwch allan eich iechydwriaeth eich hunain, gydag ofn ac arswyd; canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch, yn gystal yr ewyllysio a’r gweithredu, o’i ewyllys da. Gwnewch bob dim heb rwgnach ac ymddadleu; fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed, yn blant i Dduw, difeiüs, yn nghanol cenedlaeth ŵyrawg a throfäus; yn mhlith y rhai yr ydych yn dysgleirio megys goleuadau yn y byd, yn cynnal gair y bywyd; èr gorfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, a na chymerais boen yn ofer.

17-30Ië, a phe ym gwnelid yn ddiodoffrwm àr aberth a gweinidogaeth eich ffydd, llawenâu yr wyf, a chydlawenâu â chwi oll; ac am yr un peth byddwch chwithau lawen hefyd, a chydlawenêwch â mi. Ac yr wyf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu anfon Timothëus àr fyrder atoch, fel ym calonoger innau hefyd, wedi i mi wybod eich helynt chwi. Canys nid oes genyf neb o gyffelyb feddwl, yr hwn á wir ofala am y pethau à berthyn i chwi; canys pawb sydd yn ceisio yr eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu. Eithr y prawf o hono ef chwi á’i gwyddoch, mai, fel plentyn gyda thad, felly y gwasanaethodd efe gyda mi yn yr efengyl. Hwn, gàn hyny, yr wyf yn gobeithio ei ddanfon yn ddioed, cygynted ag y gwelwyf pa fodd y bydd gyda mi. Pa fodd bynag, yr wyf yn gwbl hyderus drwy yr Arglwydd, y deuaf finnau hefyd àr fyrder atoch. Eto mi á dybiais yn angenrheidiol ddanfon atoch Epaphroditus, fy mrawd, a’m cydweithiwr, a’m cydfilwr; ond eich apostol chwi, a gweinidog i’m cyfreidiau innau. Canys yr oedd efe yn hiraethu am danoch oll, ac yn ofidus iawn ganddo, oblegid i chwi glywed ei fod wedi bod yn glaf. Ac, yn wir, efe á fu glaf yn agos i angeu; ond Duw á drugarâodd wrtho ef; a nid wrtho ef yn unig, ond wrthyf finnau hefyd, rhag cael o honof dristwch àr dristwch. Oherwydd paham, mi á’i danfonais ef yn gynt, fel wedi i chwi ei weled ef drachefn, y byddech chwi lawen, ac y byddwn innau yn llai fy nhristwch. Derbyniwch ef gàn hyny, yn yr Arglwydd, gyda phob llawenydd, a’r cyfryw rai gwnewch gyfrif mawr o honynt; canys oblegid gwaith Crist yr aeth efe yn agos i angeu, heb brisio mo’i einioes, fel y cyflawnai efe y diffyg o’ch gwasanaeth chwi tuag ataf fi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help