1-2 Paul, a Thimothëus, gweision i Iesu Grist, at yr holl saint yn Nghrist Iesu, y rhai sydd yn Philippi, gyda’r arolygwyr a’r gweinidogion: Rhad i chwi, a thangnefedd oddwrth Dduw ein Tad, ac oddwrth ein Harglwydd Iesu Grist.
3-11Yr wyf yn diolch i’m Duw bob tro y coffâwyf am danoch; bob amser yn mhob gweddi o’r eiddof drosoch chwi oll, gàn roddi diolch gyda llawenydd, am eich cyfraniad tuag at yr efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yn awr: a chenyf yr hyder yma, y bydd i’r hwn à ddechreuodd yn eich plith waith da, barâu iddei orphen hyd ddydd Iesu Grist. Fel y mae yn iawn i mi dybied hyn am danoch oll, am fy mod genych yn eich calon, yn gystal yn fy rhwymau, ac yn fy amddiffyniad a’m cadarnâad o’r efengyl. Yr ydych chwi oll yn gydgyfranogion o’m diolchgarwch; canys Duw sy dyst i mi, mòr hiraethus wyf am danoch oll, gyda thyner serchiadau Iesu Grist. A hyn yr wyf yn ei weddio, àr gynnyddu o’ch cariad chwi eto fwyfwy, gyda gwybodaeth a chyda phob callineb; fel y bo cymeradwy genych y pethau y sydd yn rhagori; fel y byddoch bur a didramgwydd, hyd ddydd Crist, wedi eich llenwi â ffrwyth cyfiawnder, yr hwn sy drwy Iesu Grist, èr gogoniant a moliant i Dduw.
12-30A mi á ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau à ddygwyddasant i mi, iddynt droi allan yn hytrach èr llwyddiant i’r efengyl. Yn gymaint a bod fy rhwymau i yn eglur, mai o ràn Crist y maent, drwy yr holl lys, ac yn yr holl leoedd ereill. A’r rhan fwyaf o’r brodyr yn yr Arglwydd, wedi myned yn hyderus wrth fy rhwymau i, á aethant yn hyfach o lawer i draethu y gair yn ddiofn. Y mae rhai, yn wir, yn pregethu Crist, hyd y nod o genfigen ac amryson; a rhai hefyd o ewyllys da. Y naill ynt yn pregethu Crist o gynhen, nid yn gywir; gàn feddwl chwanegu blinder at fy rhwymau i: y lleill, yn wir, o gariad; gàn wybod mai èr amddiffyn yr efengyl ym gosodwyd. Beth ynte? Eto yn mhob modd, pa un bynag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist; hyd y nod yn hyn yr wyf fi yn llawenâu; ie, a llawenâu á wnaf: canys mi á wn y try hyn allan i mi èr iechydwriaeth, drwy eich gweddi chwi, a chynnorthwy Ysbryd Iesu Grist; – yn ol fy awyddfryd a’m gobaith, na’m gwaradwyddir mewn dim; eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awrhon hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynag ai drwy fywyd, ai drwy farwolaeth. Canys bywyd i mi yw Crist, a marw sydd elw. Ond á fyddai byw yn y cnawd yn lles i mi; neu beth i ddewis, nis gwn: canys y mae yn gyfyng arnaf o’r ddeutu, gàn fod genyf chwant i ymadael a bod gyda Christ, yr hyn yw y goreu o lawer iawn. Eithr aros yn y cnawd sy fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi. A chàn fy mod yn gwbl hyderus yn hyn, yr wyf yn gwybod y byddaf byw ac yr arosaf dros ryw hyd gyda chwi oll, èr cynnydd i lawenydd eich ffydd chwi; fel y byddo eich ymffrost o’m plegid i yn Nghrist Iesu yn helaethach, drwy fy nyfodiad i drachefn atoch. Yn unig ymddygwch yn deilwng o efengyl Crist; fel, pa un bynag á wnelwyf ai dyfod a’ch gweled chwi, ai bod yn absennol, y clyẅwyf oddwrth eich helynt chwi, eich bod yn sefydlog mewn un ysbryd, âg un enaid yn cydymdrech o blaid ffydd yr efengyl; ac heb eich dychrynu mewn un dim gàn eich gwrthwynebwyr: yr hyn iddynt hwy sydd arbrawf o golledigaeth; ond i chwi o iechydwriaeth, a hyny oddwrth Dduw. Canys i chwi y rhadroddwyd, èr Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond hefyd ddyodddef erddo ef; gàn fod i chwi yr un ymdrechfa, ag á welsoch ynof fi, ac yn awr à glyẅwch ei bod ynof fi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.