1-3Eithr o berthynas i eilunaberthau, ni á wyddom, (canys y mae gàn bawb o honom wybodaeth. Gwybodaeth sydd yn chwyddo, eithr cariad sydd yn adeiladu. Eithr os yw neb yn tybied ei fod yn gwybod dim, ni ŵyr efe eto ddim fel y dylai wybod. Ond od oes neb yn caru Duw, hwnw á gydnabyddir ganddo ef.)
4-13O berthynas, gàn hyny, i fwyta eilunaberthau, ni á wyddom, nad yw eilun ddim yn y byd; a nad oes un Duw arall ond un. Canys èr, yn wir, bod duwiau mewn enw, pynag ai yn y nef, ai àr y ddaiar; (megys, yn wir, y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer;) eto, i ni, nid oes ond un Duw, y Tad; o’r hwn y mae pob peth, a ninnau ef erddo: ac un Arglwydd, Iesu Grist, drwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau drwyddo ef. Eithr nid yw y wybodaeth hon gàn bawb: canys y mae rhai, hyd yr awr hon, gyda chydwybod tuagat yr eilun, yn bwyta peth, fel eilunaberth; a’u cydwybod hwy, a hi yn wan, á halogir. Eithr nid yw bwyd yn ein cymeradwyo ni i Dduw: canys nid ydym, os bwytäwn, yn well; nac oni fwytäwn, yn waeth. Er hyny, edrychwch, rhag, ysgatfydd, i’ch rhyddid hwn fod yn dramgwyddfa i’r rhai sy weiniaid. Canys os gwel neb dydi y sydd a gwybodaeth genyt, yn eistedd i fwyta mewn eilunfa, oni chadarnêir ei gydwybod ef, ac yntau yn wan, i fwyta eilunaberthau? a thrwy dy wybodaeth di, á ddyfethir y brawd gwan, dros yr hwn y bu Crist farw? A thrwy bechu fel hyn yn erbyn y brodyr, a briwo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Crist. Oherwydd paham, os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd, ni fwytâf fi gig byth, rhag i mi rwystro fy mrawd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.