1-20Deuwch, yn awr, chwi gyfoethogion, wylwch, udwch, oherwydd eich trueni sydd yn dyfod arnoch. Eich cyfoeth á bydrodd, a’ch gwisgoedd á fwytäwyd gàn bryfed. Eich aur a’ch arian á rydodd, a’u rhwd hwynt á fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac á fwyty eich cnawd chwi fel tân. Chwi á gasglasoch drysor yn y dyddiau diweddaf. Clywch! y mae cyflog y gweithwyr à fedasant eich meusydd chwi, yr hwn á gamattaliwyd genych, yn llefain; a llefain y medelwyr á ddaeth i glustiau Arglwydd y lluoedd. Moethus fuoch àr y ddaiar, a thrythyll; meithrin eich calonau á wnaethoch megys àr ddydd gwledda. Collfarnasoch – lladdasoch y Cyfiawn; – yntau ni safodd i’ ch erbyn. Byddwch, gàn hyny, yn ymarôus, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele y llafurwr, yr hwn sydd yn dysgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaiar, sydd yn aros yn amyneddgar am dano, nes iddo dderbyn y gwlaw cynnar a’r diweddar. Byddwch chwithau hefyd dda eich amynedd; – cadarnêwch eich calonau; oblegid dyfodiad yr Arglwydd á nesâodd. Na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd frodyr, fel na’ch collfarner: wele, y mae y Barnwr yn sefyll o flaen y drws. Cymerwch fy mrodyr, y prophwydi, y rhai à lefarasant yn enw yr Arglwydd, yn enghraifft o ddyoddef blinder, ac o amynedd. Wele, dedwydd yr ydym ni yn galw y rhai sydd amyneddgar. Chwi á glywsoch am amynedd Iob, ac á welsoch ddiwedd yr Arglwydd, mai tosturiol iawn yw yr Arglwydd, a thrugarog. Eithr uwchlaw pob peth, fy mrodyr, na thyngwch; nac i’r nef, nac i’r ddaiar, nac un llw arall; eithr bydded eich ïe chwi, yn Ie; a ’ch nage, yn Nage; fel na syrthioch dan farnedigaeth. A oes neb yn eich plith mewn adfyd? gweddied: a oes neb yn esmwyth arno? caned salmau. A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed ato henuriaid y gynnulleidfa, a gweddiant hwy drosto, gwedi iddynt ei eneinio âg olew, yn enw yr Arglwydd. A gweddi y ffydd á weryd y claf, a felly yr Arglwydd á’i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy á faddeuir iddo. Cyffeswch eich camweddau, bawb i’ch gilydd, a gweddiwch dros eich gilydd, fel ych iachâer. Llawer á ddichon gweddi y cyfiawn wedi ei gweithio ynddo. Elias oedd ddyn yn rhaid iddo ddyoddef fel ninnau, ac efe á weddiodd yn daer, na byddai gwlaw, ac ni bu gwlaw àr y tir dair blynedd a chwe mis. Ac efe á weddiodd drachefn, a’r nef á roddes wlaw, a’r tir á ddyg ei ffrwyth. Frodyr, od â neb o honoch àr gyfeiliorn oddwrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef; gwybydded y bydd i’r hwn à dry bechadur o gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angeu, a chuddio lliaws o bechodau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.