1 Corinthiaid 4 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-7Felly, gàn hyny, cyfrifed dyn nyni megys gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr àr ddirgeledigaethau Duw. Heblaw hyn, yr ydys yn gofyn mewn goruchwylwyr, gael pob un yn ffyddlon. Am hyny, genyf fi peth bychan iawn yw cael fy nghollfarnu genych chwi, neu gàn farn ddynol, gán nad wyf yn fy nghollfarnu fy hun. Canys nid wyf yn ymwybodol ynof fy hun o ddim allan o’i le. Eto, ni ’m cyfiawnêir drwy hyny; eithr yr Arglwydd yw yr hwn sydd yn fy marnu. Am hyny, na roddwch yr un farn cyn yr amser, hyd oni ddelo yr Arglwydd; yr hwn á ddwg i oleuni guddiedig bethau y tywyllwch, ac á eglura fwriadau y calonau; ac yna y bydd clod i bob un gàn Dduw. A’r pethau hyn, frodyr, á gymhwysais i yn gyffelybiaethol ataf fy hun, ac Apòlos, èr eich mwyn chwi, fel trwom ni y dysgoch beidio meddwl yn uwch am athrawon na’r hyn á ysgrifenwyd, fel na bo i neb o honoch, o achos un athraw, ymchwyddo yn erbyn un arall. Heblaw hyny, pwy sydd yn gwneuthur gwahaniaeth rhyngot ti? Canys pa beth sy genyt à nas derbyniaist? Ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn ymffrostio megys pe bait heb dderbyn?

8-21Yn awr yr ydych wedi eich diwallu! yn awr yr ydych wedi myned yn gyfoethog! chwi á deyrnasasoch hebom ni! a mi á ddymunwn, yn wir, pe baech yn teyrnasu, fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi. Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein harddangos ni, yr Apostolion, yn ddiweddaf, fel rhai gwedi eu bwrw i farwolaeth; oblegid nyni á wnaethwyd yn ddrych i’r byd, ie i angylion, ac i ddynion. Yr ydym ni yn ffyliaid èr mwyn Crist, a chwithau ydych ddoethion yn Nghrist: nyni yn weiniaid, chwithau yn gryfion: chychwi yn anrhydeddus, ninnau yn ddirmygus. Hyd yr awr hon yr ydym ni yn newynog, yn sychedig, ac yn noethion, ac yn cael ein cernodio, ac yn grwydraidd, ac yn llafurio, gàn weithio â’n dwylaw ein hunain: pan yn difenwir, yr ydym yn bendithio: pan yn herlidir, yr ydym yn dyoddef: pan yn ceblir, yr ydym yn deisyfu; fel ysgubion y byd y gwnaethwyd ni, a sorod pob dim hyd yn hyn. Nid i’ch gwaradwyddo chwi yr ydwyf yn ysgrifenu y pethau hyn: ond eich rhybyddio yr wyf fel fy mhlant anwyl. Canys pe byddai i chwi ddengmil o athrawon yn Nghrist, èr hyny nid oes i chwi nemawr o dadau; canys i Grist Iesu, myfi, drwy yr efengyl, á’ch cenedlais chwi. Am hyny, yr wyf yn attolwg i chwi byddwch ddilynwyr i mi. I hyn yr anfonais atoch Dimothëus, yr hwn yw fy mab anwyl, a fyddlawn yn yr Arglwydd: yr hwn á ddwg àr gof i chwi fy ffyrdd i y rhai sydd yn Nghrist, megys yr wyf yn mhob màn yn dysgu, yn mhob cynnulleidfa. Ond y mae rhai gwedi ymchwyddo, fel pe bawn i heb fod àr fedr dyfod atoch chwi. Er hyny, mi á ddeuaf atoch àr fyrder, os yr Arglwydd á’i myn, ac á fỳnaf wybod, nid ymadrodd y rhai sy gwedi ymchwyddo, ond eu gallu. Canys nid mewn gair y mae teyrnasiad Duw, ond mewn gallu. Pa un á ddewiswch chwi? Ai dyfod o honof fi atoch â gwialen, ynte mewn cariad, ac ysbryd addfwynder?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help