1-5Y gwirionedd yr wyf fi yn ei ddywedyd yn Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, a’m cydwybod yn cyd‐dystiolaethu â mi, yn yr Ysbryd Glan, bod i mi dristyd mawr, a gofid dibaid i’m calon, dros fy mrodyr, – fy nghenedl yn ol y cnawd; (canys minnau, fy hunan, á fum yn dymuno bod yn esgymun oddwrth Grist:) y rhai ydynt Israeliaid; eiddo y rhai yw y mabwysiad, a’r gogoniant, a’r cyfammodau, a rhoddiad y gyfraith, a defodau y gwasanaeth, a’r addewidion; eiddo y rhai yw y tadau; ac o’r rhai yr hanodd y Messia, yn ol y cnawd; yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.
6-13Eithr nis gellir tybied fyned addewid Duw yn ddirym; canys nid Israel yw pawb y sy gwedi hanu o Israel. A nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant iddo, eithr, “Yn Isaac y gelwir i ti had.” Hyny ydyw, nid plant y cnawd, y rhai hyny sy blant i Dduw; eithr plant yr addewid, á gyfrifir yn had. Canys gair yr addewid oedd hwn, “Yn ol yr amser hwn, y deuaf, a bydd i Sarah fab.” A nid hyn yn unig, eithr Rebecca hefyd, wedi beichiogi àr efelliaid, o un, sef o’n tad Isaac; (a hwy eto heb eu geni, na gwneuthur na da na drwg; fel y byddai i arfaeth Duw, drwy etholedigaeth, sefyll; nid drwy weithredoedd, ond o’r hwn sydd yn galw;) dywedwyd wrthi, “Yr hynaf á wasanaetha yr ieuangaf;” megys y mae yn ysgrifenedig, “Iacob á gerais, eithr Esau á gerais yn llai.”
14Beth, gàn hyny, á ddywedwn ni? Onid oes annghyfiawnder gyda Duw?
15-18Na ato Duw. Canys y mae efe yn dywedyd wrth Foses, “Mi á drugarâaf wrth yr hwn y tragaräwyf; a mi á dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.” Felly, gàn hyny, nid o’r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o’r hwn sydd yn rhedeg chwaith; ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarâu. Hefyd, y mae yr ysgrythyr yn dywedyd wrth Pharaoh, “I hyn yma yth gyfodais di i fyny; fel y dangoswn ynot fy ngallu; a fel y datgenid fy enw drwy yr holl ddaiar.” Felly, gàn hyny, y neb y mỳno, y mae efe yn trugarâu wrtho; a’r neb y mỳno, y mae efe yn ei galedu.
19-26Ti á ddywedi, gàn hyny, wrthyf, Paham y mae efe eto yn beio, canys pwy á wrthwynebodd ei ewyllys ef? Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti, yr hwn á ddadleui yn erbyn Duw? A ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn à’i ffurfiodd, Paham ym gwnaethost fel hyn? Onid oes awdurdod gàn y crochenydd àr y priddgist, i wneuthur o’r un telpyn pridd, un llestr i barch, ac arall i anmharch? Eto Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, á oddefodd, drwy hirymaros, lestri digofaint wedi eu cymhwyso i golledigaeth. Ac i beri gwybod golud ei ogoniant, àr lestri trugaredd, y rhai á barotoes efe o’r blaen i ogoniant; sef nyni, y rhai á alwodd efe; nid o’r Iuddewon yn unig, eithr hefyd o’r Cenedloedd. Megys hefyd y mae efe yn dywedyd, drwy Hosea, “Mi á alwaf yn bobl i mi, y rhai nid oeddynt bobl i mi; ac yn anwyl, yr hon nid oedd anwyl. A bydd, yn y fàn lle y dywedwyd wrthynt, Nid fy mhobl i ydych chwi; yno y gelwir hwynt, Meibion i’r Duw byw.”
27-33Hefyd, y mae Isaïa yn llefain, am Israel, “Pe byddai nifer meibion Israel fel tywod y môr, gweddill á achubir. Canys y mae efe àr fedr cwblâu, a phrysuro ei waith, mewn cyfiawnder; oblegid byr waith á wna yr Arglwydd, àr y tir hwn.” A, megys y dywedodd Isaia o’r blaen, “Oni buasai i Arglwydd y lluoedd adael i ni ychydig o weddill, megys Sodoma y buasem, a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorra.” Beth, gàn hyny, á ddywedwn ni? Bod y Cenedloedd, y rhai nid oeddynt yn dylyn àr ol cyfiawnâad, wedi cael gafael mewn cyfiawnâad, sef cyfiawnâad yr hwn sy drwy ffydd. Ond Israel, yr hwn oedd yn dylyn cyfraith cyfiawnâad, ni chyrhaeddodd gyfraith cyfiawnâad. Paham? Am nad oeddynt yn ei cheisio drwy ffydd; ond, megys drwy gyfraith gweithredoedd: canys hwy á dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd. Megys y mae yn ysgrifenedig, “Wele fi yn gosod yn Sïon, faen tramgwydd, a chraig rhwystr; a phwybynag a gredo ynddo, ni chywilyddir.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.