2 Pedr 1 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-2 Symeon Pedr, gwas ac Apostol i Iesu Grist, at y rhai à gawsant gyffelyb werthfawr ffydd â ninnau, drwy gyfiawnder ein Duw a’n Hachubwr Iesu Grist. Rhad i chwi a thangnefedd á amlâer, drwy adnabod Duw, ac Iesu ein Harglwydd ni.

3-21Megys y rhoddes ei ddwyfol allu ef i ni bob peth à berthyn i fywyd a duwioldeb, drwy ei adnabod ef yr hwn á’n galwodd ni drwy ei ogoniant a’i effeithiolaeth. Drwy y rhai y rhoddwyd i ni yr addewidion mwyaf a gwerthfawrusaf, fel drwy y rhai hyn y byddem gyfranogion o’r ddwyfol anian, wedi dianc oddwrth y llygredigaeth sydd yn y byd drwy drachwant. Ac oherwydd y peth yma, gàn roddi cwbl‐ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, wroldeb; ac at wroldeb, wybodaeth; ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gymedrolder, amynedd; ac at amynedd, dduwioldeb; ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad: canys os yw y pethau hyn ynoch, ac yn helaeth hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur, na diffrwyth, yn ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist. Eithr y sawl nid yw y pethau hyn ganddo, dall ydyw, yn cau ei lygaid, wedi gollwng dros gof ei buredigaeth oddwrth ei bechodau gynt. Oherwydd paham, yn hytrach, frodyr, ymegniwch i wneuthur eich galwedigaeth a’ch etholedigaeth yn sicr; canys wrth wneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth: a felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i fewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist. Oherwydd paham, nid esgeulusaf eich coffâu bob amser am y pethau hyn, èr eich bod yn gwybod, a gwedi eich sefydlu yn, y gwirionedd presennol. Ië, yr ydwyf yn tybied bod yn iawn, tra byddwyf yn y babell hon, eich cyffroi chwi, drwy ddwyn àr gof i chwi; gàn wybod, y bydd i mi àr frys roddi fy mhabell hon heibio, megys y dangosodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi. Am hyny, mi á wnaf fy ngoreu àr allu o honoch bob amser, àr ol fy ymadawiad i, wneuthur coffa am y pethau hyn. Canys nid dilyn chwedlau cyfrwys á wnaethom, pan hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid; canys pan dderbyniodd efe gàn Dduw Dad, barch a gogoniant, daeth llef o’r fath yma ato oddwrth y mawrragorol ogoniant, “Hwn yw fy Mab, yr anwylyd, yn yr hwn yr ymhyfrydwyf.” A’r llef yma, yr hon á ddaeth o’r nef, á glywsom ni, pan oeddym gydag ef àr y mynydd santaidd; a felly y mae genym air y prophwydi yn gadarnach; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, fel canwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio y dydd, a chodi o’r seren fore yn eich calonau chwi. Gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un brophwydoliaeth o’r Ysgrythyr o ddeongliad dyn ei hunan; canys prophwydoliaeth, un amser erioed, ni ddaeth, drwy ewyllys dyn; eithr dynion santaidd Duw á lefarasant, gàn gael eu cynhyrfu gàn yr Ysbryd Glan.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help