1 Ioan 5 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-12Pob un y sydd yn credu mai Iesu yw y Crist, á genedlwyd gàn Dduw; a phob un sydd yn caru y cenedlwr, sydd hefyd yn caru y cenedledig ganddo ef. Wrth hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw, pan fyddom yn caru Duw, ac yn cadw ei orchymynion ef. Canys hyn yw cariad Duw, bod i ni gadw ei orchymynion: a’i orchymynion ef nid ydynt drymion; oblegid pob un à genedlwyd gàn Dduw, sydd yn gorchfygu y byd. A hon yw yr oruchafiaeth sydd yn gorchfygu y byd, sef ein ffydd ni. Pwy yw yr hwn sydd yn gorchfygu y byd, ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw? Dyma yr hwn à ddaeth drwy ddwfr a gwaed, sef Iesu y Crist; nid drwy y dwfr yn unig, ond drwy y dwfr a’r gwaed. A’r Ysbryd yw yr hwn à dystiolaethodd; oblegid yr Ysbryd yw y gwirionedd. Y mae tri, yn wir, yn tystiolaethu; yr Ysbryd, a’r dwfr, a’r gwaed; a’r tri hyn yn un y maent yn cyttuno. Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei derbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy. A hon yw tystiolaeth Duw, yr hon á dystiolaethodd efe am ei Fab. (Yr hwn sydd yn credu yn Mab Duw, sy ganddo y dystiolaeth ynddo ei hun. Yr hwn nid yw yn credu Duw, á’i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth à dystiolaethodd Duw am ei Fab.) A hon yw y dystiolaeth, roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol; a’r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef. Yr hwn y mae y Mab ganddo, y mae y bywyd hwn ganddo: yr hwn nid yw Mab Duw ganddo, nid yw y bywyd hwn ganddo.

13-18Y pethau hyn á ysgrifenais atoch, fel y gwypech chwi, y rhai sydd yn credu yn enw Mab Duw, bod genych fywyd tragwyddol. A hyn yw yr hyder y sy genym tuag ato ef, ei fod ef yn ein gwrandaw ni, os gofynwn ddim yn ol ei ewyllys ef. Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrandaw ni, am ba beth bynag à ddeisyfom, ni á wyddom y bydd i ni gael y deisyfiadau à ddeisyfasom ganddo. Os gwel neb ei frawd yn pechu pechod, nid i farwolaeth, gofyned, ac efe á rydd iddo fywyd, i’r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Y mae pechod i farwolaeth. Nid am hwnw yr wyf yn dywedyd àr ddeisyf o honoch. Pob annghyfiawnder, pechod yw; ond y mae pechod nid yw i farwolaeth. Ni á wyddom nad yw y neb à genedlwyd gàn Dduw, yn pechu; eithr y mae yr hwn à genedlwyd gàn Dduw yn ei gadw ei hun, a’r un Drwg nid yw yn cyfhwrdd âg ef.

19-21Nyni á wyddom ein bod o Dduw, a bod yr holl fyd yn gorwedd dan yr un Drwg. Ni á wyddom, hefyd, ddyfod Mab Duw, a rhoddi o hono i ni ddëall, fel yr adnabyddem yr hwn sy Gywir; ac yr ydym ni yn y Cywir hwnw, – yn ei Fab ef Iesu Grist. Hwn yw y gwir Dduw, a’r bywyd tragwyddol. Blant bychain, ymgedwch oddwrth eilunod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help