Colossiaid 2 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-19Oherwydd paham, mi á ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech y sydd arnaf drosoch chwi, a thros y rhai yn Läodicea, a thros gynnifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd; fel, wedi eu cydgysylltu mewn cariad, y cysurid eu calonau hwy, sef drwy holl olud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, yn yr hwn y mae yn nghadw holl drysorau doethineb a gwybodaeth. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi âg ymadrodd darbwyllus. Canys èr fy mod i yn absennol yn y cnawd, èr hyny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu ac yn gweled eich trefn chwi, a diysgogrwydd eich ffydd yn Nghrist. A chàn i chwi dderbyn Crist Iesu yr Arglwydd, rhodiwch ynddo; gwedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef, a’ch cadarnâu yn y ffydd, megys ych dysgwyd, gàn fod yn helaethion ynddi gyda diolchgarwch. Gochelwch rhag i neb wneuthur ysglyfaeth o honoch drwy athroniaeth wag a thwyllodrus, – yn ol traddodiad dynion, yn ol gwyddorion y byd, a nid yn ol Crist. Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn sylweddol. Ac yr ydych chwi gwedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob llywodraeth ac awdurdod. Gàn yr hwn, hefyd, ych enwaedwyd âg enwaediad nid o waith llaw, yn nyosgiad corff y cnawd, drwy enwaediad Crist; wedi eich cydgladdu âg ef yn y trochiad, drwy yr hwn hefyd ych cydgyfodwyd, drwy grediniaeth yn nerthol weithrediad Duw, yr hwn á’i cyfododd ef o feirw. Canys chychwi, y rhai oeddych feirw o achos camweddau, a thrwy ddienwaediad eich cnawd, á gydfywâodd efe gydag ef, wedi maddau i chwi yr holl gamweddau: – gwedi iddo ddileu ysgrifenlaw y deddfodau o berthynas i ni, yr hon oedd yn ein herbyn ni, efe á’i cymerodd hi oddar y ffordd, gán ei hoelio wrth y groes; – wedi yspeilio llywodraethau ac awdurdodau, efe á’u harddangosodd hwynt àr gyhoedd, wedi ymorfoleddu arnynt drwyddi hi. Na farned neb, gàn hyny, arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gwyl, neu newyddloer, neu seibiaethau; y rhai ydynt gysgod y pethau oedd i ddyfod, ond y sylwedd sydd o Grist. Na thwylled neb chwi am eich gobr, – gàn ymhyfrydu mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad cènadau, gàn ymwthio i fewn i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ddiachos drwy ei feddwl cnawdol ei hun: ac heb ddal gafael yn y pen, drwy yr hwn y mae yr holl gorff, drwy y cymmalau a’r cysylltiadau, gan dderbyn lluniaeth a gwedi ei gydgysylltu, yn cynnyddu gàn gynnydd Duw.

20-23Os buoch feirw gyda Christ oddwrth wyddorion y byd, paham, megys pe byddech yn byw yn y byd, yr ydych yn ymroi i ddeddfodau, yn ol gorchymynion ac athrawiaethau dynion; y rhai á ddywedant, Na chyfhwrdd â’r peth hwn; nac archwaetha y peth yma; na theimla y peth arall; (y rhai ydynt oll i ddarfod wrth eu harfer;) yr hyn bethau, yn wir, y sy ganddynt rith doethineb mewn ewyllys‐grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff – heb unrhyw olwg àr foddloni y cnawd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help