1-4Yr henuriaid sydd yn eich plith, eu cynghori yr ydwyf, yr hwn hefyd wyf gydhenuriad, a thyst o ddyoddefiadau Crist, yr hwn hefyd wyf gyfranog o’r gogoniant à ddadguddir. Porthwch braidd Duw, yr hwn sy gyda chwi; gàn olygu drostynt, nid drwy gymhell, eithr yn ewyllysgar; nid èr mwyn budr‐elw, eithr o barodrwydd meddwl; nid fel rhai yn träarglwyddiaethu àr etifeddiaeth Duw, ond gàn fod yn gynlluniau i’r praidd: a phan ymdangoso y Pen‐bugail, chwi á gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant.
5-14Yr un ffunud, y rhai ieuainc, ymostyngwch i’r henuriaid. Ië byddwch bawb yn ostyngedig i’ch gilydd, ac ymwisgwch â gostyngeiddrwydd; oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu y beilchion, ond yn rhoddi rhad i’r rhai gostyngedig. Ymddarostyngwch, gàn hyny, dan alluog law Duw, fel ych dyrchafo mewn amser cyfaddas. Bwriwch eich holl bryderi arno ef, canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi. Byddwch sobr, gwyliwch; y mae eich gwrthwynebwr, y diafol, megys llew rhuadwy yn rhodio oddamgylch, gàn geisio y neb à allo ei lyncu: yr hwn gwrthwynebwch, yn gadarn yn y ffydd, gàn wybod bod yr un dyoddefiadau yn cael eu cyflawni yn eich brodyr, y rhai sydd yn y byd. A Duw pob rhad, yr hwn á’ch galwodd chwi iddei dragwyddol ogoniant drwy Grist Iesu, gwedi i chwi ddyoddef ychydig, á’ch perffeithio chwi; á’ch cynnalio, á’ch cryfâo, á’ch sefydlo; iddo ef y byddo y gogoniant, á’r gallu yn oes oesoedd. Amen. Gyda Silfanus, brawd ffyddlawn, (fel yr wyf yn tybied,) yr ysgrifenais atoch àr ychydig eiriau, gàn eich cynghori chwi, a thystiolaethu yn rymus, mai gwir rad Duw yw yr hwn yr ydych yn sefyll ynddo. Y mae y rhai sydd yn Mabilon, cydetholedigion â chwi, yn eich anerch; a Marc fy mab i. Anerchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll y rhai ydych yn Nghrist Iesu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.