1-15Canys ni á wyddom, os ein daiarol dŷ o’r babell hon á ddattodir, bod i ni adeilad gàn Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd. Canys yn hon yr ydym yn ocheneidio, gàn daerddeisyfu cael ein harwisgo â’n tŷ sydd o’r nef. Ac yn ddiau, gwedi ein gwisgo felly, nid yn noethion ein ceir. Canys nyni, yn wir, y rhai ym yn y babell hon ydym yn ocheneidio, yn llwythog; nid ein bod yn chwennych ein dyosg, ond ein harwisgo; fel y llyncer marwoldeb gàn fywyd. A’r hwn à’n gweithiodd i’r dymuniad yma yw Duw, yr hwn hefyd á roddodd i ni ernes yr Ysbryd. Am hyny, yr ydym ni yn hyderus bob amser; gàn wybod, tra yr ydym gartref yn y corff, ein bod oddi cartref oddwrth yr Arglwydd: (canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, nid wrth olwg.) Yr ydym yn hyderus, yn wir, ac yn dymuno yn hytrach bod oddi cartref o’r corff, a bod gartref gyda’r Arglwydd. Am hyny hefyd, yr ydym yn ymorchestu, pa un bynag ai gartref y byddom ai oddi cartref, i fod yn gymeradwy ganddo ef. Canys rhaid i ni oll ymddangos gèr bron brawdle Crist, fel y derbynio pob un y pethau à wnaethwyd yn y corff, yn ol yr hyn à wnaeth, pa un bynag ai da ai drwg. A ni, gàn hyny, yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn darbwyllo dynion; ac i Dduw ein gwnaed yn hysbys; ac yr ydwyf yn hyderu ddarfod ein gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd. Pa fodd bynag, nid ydym yn ein canmol ein hunain drachefn wrthych, ond yn unig yn rhoddi i chwi achlysur gorfoledd o’n plegid ni, fel y caffoch beth i ateb i’r rhai sydd yn gorfoleddu yn y golwg, nid yn y galon. Canys pa un bynag ai anmhwyllo yr ydym, i Dduw y mae; ai yn ein pwyll yr ydym, i chwi y mae. Canys y mae cariad Crist yn ein cymhell ni, gán farnu o honom hyn, – os bu un farw dros bawb, yn ddiau meirw á fu pawb; ac efe á fu farw dros bawb, fel na byddai i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i’r hwn á fu farw ac á gyfodwyd drostynt.
16-21Am hyny nid ydym ni, o hyn allan, yn cymeradwyo neb o ran y cnawd; ac os buom hefyd yn gwneuthur cyfrif o Grist o ran y cnawd, eto yn awr nid ydym yn gwneuthur cyfrif o hono ef mwyach o ran hyny. Canys, od oes neb yn Nghrist, y mae efe yn greadur newydd; yr hen bethau á aethant heibio; wele, gwnaethwyd pob peth yn newydd! A’r pob peth yma o Dduw, yr hwn á’n cymmododd ni ag ef ei hun drwy Iesu Grist, ac á roddodd i ni weinidogaeth y cymmod; – sef, bod Duw drwy Grist yn cymmodi y byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau, a gwedi gosod ynom ni air y cymmod. Am hyny, yr ydym ni yn gènadau dros Grist, megys pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni; yr ydym yn erfyn dros Grist, cymmoder chwi â Duw. Canys yr hwn nid adnabu bechod, á wnaeth efe yn bechaberth drosom ni; fel y gwnelid ni yn gyfiawnedig gèr bron Duw drwyddo ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.