Ioan Marc 16 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-8A gwedi darfod y Seibiaeth, Mair y Fagdalëad, a Mair mam Iago a Salome, á brynasant beraroglau, fel yr eneinient Iesu. Ac yn fore iawn y dydd cyntaf o’r wythnos, y daethant at y tomawd o gylch codiad haul. A hwy á ddywedasant wrth eu gilydd, Pwy á dreigla i ni y maen ymaith oddwrth ddrws y tomawd? (canys yr oedd efe yn fawr iawn.) Ond pan edrychasant, hwy á ganfuant bod y maen wedi ei dreiglo ymaith. A gwedi iddynt fyned i fewn i’r tomawd, hwy á welent fab ieuanc yn eistedd o’r tu dëau, gwedi ei ddilladu â gwisg wenllaes; a hwy á ddychrynasant. Ond efe á ddỳwedodd wrthynt, Na ddychrynwch; ceisio yr ydych Iesu y Nasarethiad, yr hwn á groeshoeliwyd. Efe á gyfododd: nid yw efe yma: wele y màn y dodasant ef. Eithr ewch, dywedwch iddei ddysgyblion ef, ac i Bedr, Y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Alilea; yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i chwi. Yna gwedi i’r gwragedd ddyfod allan, hwy á ffoisant oddwrth y tomawd, wedi eu taro â chryndod â braw; ond ni ddywedasant ddim wrth neb, yr oeddynt wedi dychrynu cymaint.

9-11Iesu gwedi adgyfodi yn fore y dydd cyntaf o’r wythnos, á ymddangosodd yn gyntaf i Fair y Fagdalëad, o’r hon y bwriasai efe allan saith o gythreuliaid. Hithau á aeth ac á fynegodd i’r rhai à fuasent gydag ef, y rhai oeddynt mewn galar ac wylofain. Ond pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.

12-13Gwedi hyny yr ymddangosodd efe mewm gwedd arall i ddau o honynt, fel yr oeddynt yn ymdeithio i’r wlad. Y rhai hyn wedi dychwelyd, á fynegasant i’r dysgyblion ereill, ond ni chredent iddynt hwythau chwaith.

14-18O’r diwedd efe á ymddangosodd i’r unarddeg, fel yr oeddynt yn bwyta, ac á ddannododd iddynt eu hannghrediniaeth a’u cildynrwydd, yn annghoelio y rhai à’i gwelsent ef àr ol ei adgyfodiad. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Ewch drwy yr holl fyd, cyhoeddwch y Newydd da i bob creadur. Y neb á gredo ac á drocher, á fydd cadwedig; ond y neb ni chredo, á gollfernir. A’r galluoedd gwyrthiol hyn á ganlynant y credinwyr: – Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid. Llefarant â thafodau anadnabyddus iddynt o’r blaen. Gafaelant mewn seirff gyda diogelwch. Ac os gwenwyn á yfant, ni wna iddynt ddim niwaid. Y cleifion á iachâant drwy osod eu dwylaw arnynt.

19-20A’r Arglwydd wedi iddo lefaru wrthynt, á gymerwyd i fyny i’r nef, ac á eisteddodd àr ddeheulaw Duw. Hwythau á aethant allan ac á gyhoeddasant y newydd yn mhob màn, a’r Arglwydd yn cydweithio â hwynt, ac yn cadarnâu eu hathrawiaeth drwy y gwyrthiau y rhai oedd yn ei chanlyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help