Gweithredoedd 23 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-10A Phaul yn edrych yn graff àr y Sanhedrim, á ddywedodd, Frodyr, myfi á ymddygais, hyd y dydd heddyw, mewn pob cydwybod dda tuag at Dduw. Ac Ananias, yr archoffeiriad, á archodd i’r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, ei daro ef àr ei enau. Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw sydd àr fedr dy daro di, bared wedi ei wỳngalchu! Canys á ydwyt ti yn eistedd i’m barnu i yn ol y gyfraith, ac èr hyny, gàn droseddu y gyfraith, yn peri fy nharo i? A’r rhai à safent gerllaw, á ddywedasant, A wyt ti yn difenwi archoffeiriad Duw? A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr archoffeiriad oedd efe; canys ysgrifenedig yw, “Na ddywed yn ddrwg am bènaeth dy bobl.” Yna Paul, pan ganfu bod y naill ran yn Saduwceaid, a’r llall yn Phariseaid, á lefodd yn y Sanhedrim, Frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Pharisead; am obaith adgyfodiad y meirw, yr ydys yn fy nwyn i i farn. Ac àr ei fod yn dywedyd hyn, aeth yn ymryson rhwng y Phariseaid a’r Saduwceaid; a rhànwyd y lliaws. Oblegid y Saduwceaid á ddywedant nad oes nac adgyfodiad, nac angel, nac ysbryd; ond y Phariseaid á addefant bob un o’r ddau. A bu llefain mawr; a’r ysgrifenyddion y rhai oedd o du y Phariseaid, á godasant i fyny, ac á ymrysonasant, gàn ddywedyd, Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn; ond os ysbryd, neu angel á lefarodd wrtho, “nac ymladdwn yn erbyn Duw.” A gwedi cyfodi terfysg mawr, y cadben, yn ofni rhag tỳnu Paul yn drylliau ganddynt, á berodd i’r milwyr fyned i waered, a’i gipio ef o’u canol hwynt, a’i ddwyn i’r castell.

11-25A’r nos ganlynol, yr Arglwydd á safodd gerllaw iddo, ac a ddywedodd, Paul, cymer gysur; canys megys y tystiolaethaist y pethau am danaf fi yn Nghaersalem, felly y mae yn raid i ti dystiolaethu yn Rhufain hefyd. A phan aeth hi yn ddydd, rhai o’r Iuddewon, wedi llunio cyfrad, á’u rhwymasant eu hunain â diofryd; gàn ddywedyd, na fwytaent, a nad yfent, nes iddynt ladd Paul. Ac yr oedd mwy na deugain o’r rhai à wnaethent y cynghrair hwn. A hwy á ddaethant at yr archoffeiriaid a’r henuriaid, ac á ddywedasant, Ni a’n rhwymasom ein hunain ag Anathema ddifrifol, nad archwaethem ddim hyd oni laddem Baul; yn awr, gàn hyny, hysbyswch chwi, gyda’r Sanhedrim, i’r cadben, bod iddo ei ddwyn ef i waered atoch chwi, fel pe byddech am chwilio yn fanylach, i’r hyn à berthyn iddo; a ninnau, cyn y delo efe yn agos atoch ydym barod iddei ladd ef. Ond mab chwaer Paul, wedi clywed am y cynllwyn, á ddaeth, a gwedi myned i fewn i’r castell, á fynegodd i Baul. A Phaul, wedi galw un o’r canwriaid ato, á ddywedodd, Dwg y gwr ieuanc hwn at y cadben, oblegid y mae ganddo beth iddei fynegi iddo. Yntau, gàn hyny, á’i cymerodd, ac á’i dyg at y cadben, ac á ddywedodd, Paul, y carcharor, á’m galwodd i ato, ac á ddymunodd arnaf ddwyn y gwr ieuanc yma atat ti, yr hwn sy ganddo beth iddei ddywedyd wrthyt. A’r cadben á’i cymerodd ef erbyn ei law, a gwedi myned ag ef o’r neilldu, á ofynodd iddo, Beth yw yr hyn sy genyt iddei fynegi i mi? Ac efe á ddywedodd, Yr Iuddewon á gyttunasant â’u gilydd i ofyn i ti, ddwyn Paul y fory i waered i’r Sanhedrim, fel pe baent àr fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef. Ond na ddarbwyller di ganddynt; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugain o honynt, y rhai á roisant ddiofryd, i beidio na bwyta nac yfed, nes y lladdont ef; ac yn awr y maent hwy yn barod, yn dysgwyl yr addewid hon genyt ti. Y cadben, gàn hyny, á ollyngodd y gwr ieuanc ymaith, gydag archeb, Gofala na ddywedych i neb, amlygu o honot y pethau hyn i mi. Ac efe á alwodd ato ddau o’r canwriaid, ac á ddywedodd, Parotowch ddau gant o filwyr, i fyned i Gaisarea; a seithdeg o wŷr meirch, a deugant o ffỳnwewŷr, erbyn y drydedd awr o’r nos: a darparwch ysgrubliaid i osod Paul arnynt, a dygwch ef yn ddiogel at Ffelics, y rhaglaw. Ac efe á ysgrifenodd lythyr, cynnwysion yr hwn sydd yn yr eilun yma: –

26Clawd Lysias, at ei ardderchogrwydd, Ffelics y rhaglaw, yn anfon anerch:

27-30Y gwr hwn á ddaliwyd gàn yr Iuddewon, ac á fu agos a chael ei ladd ganddynt; pryd y daethym i gyda llu o filwyr, ac yr achubais ef: ac yr wyf wedi deall àr ol hyny, mai Rhufeinwr yw efe. A chàn ewyllysio gwybod y bai y cyhuddent ef o hono, mi á’i dygais ef o flaen y Sanhedrim; yr hwn á gefais yn cael ei gyhuddo am arholion o’u cyfraith hwy, heb fod un cwyn arno yn haeddu angeu, neu rwymau. Ond pan hysbyswyd i mi bod yr Iuddewon àr fedr cynllwyn i’r gwr, myfi á’i hanfonais ef allan o law atat ti, gwedi rhybyddio ei gyhuddwyr ef i ddywedyd gèr dy fron di, pa bethau sy ganddynt yn ei erbyn ef. Bydd iach.

31-35Y milwyr, gàn hyny, fel y gorchymynasid iddynt, wedi cymeryd Paul i fyny, á’i dygasant o hyd nos i Antipatris. A thranoeth hwy á ddychwelasant i’r castell, gàn adael i’r gwŷr meirch fyned gydag ef: y rhai, gwedi dyfod i Gaisarea, a rhoddi y llythyr at y rhaglaw, á osodasant Baul hefyd gèr ei fron ef. A gwedi iddo ddarllen y llythyr, efe á ofynodd o ba dalaeth yr oedd efe: a gwedi ei hysbysu mai o Gilicia yr ydoedd, Mi á’th wrandawaf, ebai efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe á orchymynodd ei gadw ef yn nadleudy Herod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help