Philippiaid 4 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-23Am hyny, fy mrodyr anwyl a’r rhai yr wyf yn mawr hiraethu am danynt, fy llawenydd a’m coron, felly byddwch sefydlog yn yr Arglwydd, garedigion. Yr wyf yn deisyf àr Euodia, ac yr wyf yn deisyf àr Syntyche, fod o’r un meddwl yn yr Arglwydd. Ië, yr wyf yn dymuno arnat tithau, fy ffyddlawn gydswyddawg, cynnorthwya y gwragedd hyny à gydlafuriasant â mi yn yr efengyl, yn nghyd â Chlement, a’m cydweithwyr ereill, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y bywyd. Llawenêwch yn yr Arglwydd yn wastadol: yr wyf yn dywedyd drachefn, Llawenêwch. Bydded eich arafwch yn hysbys i bob dyn: y mae yr Arglwydd yn agos. Na ofelwch am ddim; eithr yn mhob peth drwy weddi ac ymbil, gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau yn hysbys gèr bron Duw; a thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, á geidw eich calonau a’ch meddyliau, drwy Grist Iesu. Yn ddiweddaf, frodyr, pa bethau bynag sydd wir, pa bethau bynag sydd anrhydeddus, pa bethau bynag sy gyfiawn, pa bethau bynag sy bur, pa bethau bynag sy gariadus, pa bethau bynag sy ganmoladwy; od oes un rhinwedd, od oes dim clodadwy, meddyliwch am y pethau hyn; y pethau hefyd a ddysgasoch, ac á dderbyniasoch, ac á glywsoch, ac á welsoch gyda mi, y pethau hyny gwnewch; a Duw yr heddwch á fydd gyda chwi. Ond yr wyf yn llawenâu yn fawr yn yr Arglwydd, oblegid i chwi fod yn awr o’r diwedd yn flodeuog o ràn eich gofal am danaf fi; am yr hwn, yn wir, yr oeddych yn ofalus, ond bod arnoch eisieu amser cyfaddas. Nid fy mod yn cwyno o ràn eisieu; canys mi á ddysgais, yn mha gyflwr bynag y byddwyf, fod yn foddlon. Mi á wn beth yw bod yn isel arnaf; mi á wn beth yw bod mewn llawnder. Yn mhob lle, a thrwy bob modd, ym haddysgwyd beth yw bod yn llawn, a bod yn newynog; bod yn helaeth arnaf, a mewn prinder. Yr wyf yn gallu pob peth, drwy yr hwn sydd yn fy nerthu i. Er hyny, da y gwnaethoch, drwy gydgyfranu â mi yn fy ngorthrymder. A chwithau, Philippiaid, hefyd á wyddoch, yn nechreuad fy llafur i yn yr efengyl, pan ymadewais o Facedonia, na chyfrànodd yr un gynnulleidfa â mi, drwy roddi a derbyn, ond chwi yn unig; ddarfod hefyd, pan yn Thessalonica, i chwi ddanfon unwaith, ïe, ddwywaith, i ddiwallu fy anghenraid: – nid fy mod i yn taergeisio y rhodd; eithr yr ydwyf yn taergeisio y ffrwyth, yr hwn sydd yn amlâu erbyn eich cyfrif chwi. Ond mi á dderbyniais bob peth, ac y mae genyf helaethrwydd; myfi á gyflawn ddiwallwyd, wedi i mi dderbyn gàn Epaphroditus y pethau à ddanfonwyd oddwrthych chwi, arogl peraidd, aberth cymeradwy, boddlon gàn Dduw. A’m Duw i á ddiwalla eich holl raid chwi, yn ol ei olud ef mewn gogoniant, drwy Grist Iesu. Yn awr i Dduw, sef ein Tad ni, y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Anerchwch bob sant yn Nghrist Iesu. Y mae y brodyr y sy gyda mi yn eich anerch. Y mae yr holl saint yn eich anerch chwi, ond yn enwedig y rhai sydd o deulu Caisar. Rhad ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help