Matthew Lefi 16 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-4Yno y daeth rhyw Phariseaid a Saduwceaid, y rhai, iddei brofi ef, á ddymunasant arno ddangos iddynt arwydd yn yr wybren. Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Yn yr hwyr y dywedwch, E fydd yn dywydd teg, canys y mae yr wybr yn goch; ac yn y bore, E fydd tymhestl heddyw, canys y mae yr wybr yn goch a chuchiog. Medrwch farnu yn iawn am ymddangosiad yr wybren, eithr oni fedrwch chwi ddirnad arwyddion yr amseroedd? Cenedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd, ond ni roddir arwydd iddi, ond arwydd y proffwyd Iona. Yna efe á’u gadawodd hwynt, ac á aeth ymaith.

5-12A’i ddysgyblion ef, cyn eu dyfod drosodd, á annghofiasent gymeryd torthau gyda hwynt. Iesu á ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a’r Saduwceaid. Ar hyn dywedasant, gàn resymu yn eu plith eu hunain, Hyn sydd am na ddygasom dorthau gyda ni. Iesu yn canfod hyny, á ddywedodd, Beth ydych yn ei resymu yn eich plith eich hunain, O chwi rai anymddiriedus! ddarfod i mi ddywedyd fel hyn, am na ddygasoch dorthau? A ydych chwi ddim yn dëall eto? nac yn cofio y pumm torth rhwng y pumm mil, a pha sawl basged á lanwasoch â’r briwfwyd? na’r saith dorth rhwng y pedair mil, a pha sawl llawfasged á lanwasoch? Pa fodd nad ydych yn dëall, nad oeddwn yn dywedyd am fara, pan berais i chwi ymogelyd rhag surdoes y Phariseaid a’r Saduwceaid? Yna y dëallasant, ddarfod iddo eu rhybyddio hwynt, nid rhag y surdoes à ddefnyddiai y Phariseaid a’r Saduwceaid mewn bara, ond rhag eu hathrawiaeth hwynt.

DOSBARTH IX.Y Gweddnewidiad.

13-20Fel yr oedd Iesu yn myned i dalaeth Caisarea Philippi, efe á ofynodd iddei ddysgyblion, gàn ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd yw Mab y Dyn? Hwythau á atebasant, Rhai a ddywedant, Iöan y Trochiedydd; ereill, Elias; ereill Ieremia, neu un o’r proffwydi. Ond pwy, meddai efe, y dywedwch chwi fy mod i? Simon Pedr gàn ateb, á ddywedodd, Ti yw y Messia, Mab y Duw byw. Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Gwỳn dy fyd di, Simon ab‐Iona; canys nid cig a gwaed á ddadguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Yr wyf finnau yn dywedyd i ti, Ti á elwir Càreg; ac àr y graig hon yr adeiladaf fy nghynnulleidfa, yn erbyn yr hon ni lwydda pyrth Hades. Heblaw hyny, mi á roddaf i ti allweddau teyrnas y nefoedd; bethbynag á rwymych ár y ddaiar, á fydd rwymedig yn y nefoedd; a phethbynag á ryddâych àr y ddaiar, á fydd wedi ei ryddâu yn y nefoedd. Yna y gwaharddodd efe iddei ddysgyblion ddywedyd i neb mai efe yw y Messia.

21-23O’r pryd hwnw y dechreuodd Iesu ddadrin iddei ddysgyblion, bod yn raid iddo fyned i Gaersalem a dyoddef llawer yno oddwrth yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a chael ei ladd, a bod yn raid iddo gyfodi y trydydd dydd. Ar hyny Pedr, wedi ei gymeryd ef o’r neilldu, á’i ceryddodd ef, gàn ddywedyd, Pell fyddo hyn oddwrthyt, Feistr; ni ddygwydd hyn i ti. Yntau á drôdd ac á ddywedodd wrth Bedr, Dos ymaith, wrthwynebydd, rhwystr ydwyt yn fy ffordd i; oblegid nid ydwyt yn synied pethau Duw, ond pethau dynion.

24-28Yna y dywedodd Iesu wrth ei ddysgyblion, Os mỳn neb ddyfod dàn fy nhywysiaeth i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi. Canys pwybynag a fỳno gadw ei fywyd, á’i cyll; a phwybynag á gollo ei fywyd èr fy mwyn i, á’i caiff. Pa lesâad i ddyn, ped ennillai efe yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? neu pa beth na ddyry dyn yn bridwerth am ei fywyd? Canys Mab y Dyn, wedi ei wisgo â gogoniant ei Dad, á ddaw àr ol hyn, gyda ’i gènadau nefol, ac á dâl i bob dyn yn ol ei weithredoedd. Yn wir, meddaf i chwi, rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma yn bresennol, ni phrofant angeu, hyd oni welont Fab y Dyn yn cychwyn ei deyrnasiad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help