Hebreaid 12 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-17Gan fod i ni, wrth hyny, gymaint lliaws o dystion yn ein hamgylchu, gwedi rhoi heibio bob rhwystr, yn enwedig y pechod sy barod i’n maglu, drwy ddyfalbara rhedwn yr yrfa à osodwyd o’n blaen ni; gàn edrych àr Iesu, blaenor a pherffeithydd y ffydd; yr hwn am y llawenydd à osodwyd iddo, á ddyoddefodd y groes, gàn ddiystyru y gwaradwydd, ac á eisteddodd àr ddeheulaw gorseddfainc Duw. Ystyriwch yr hwn à ddyoddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gàn bechaduriaid; fel na flinoch, drwy ymollwng yn eich meddyliau; ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, drwy ymdrechu yn erbyn y pechod hwn. Gyda hyny, chwi á ollyngasoch dros gof y cynghor, yr hwn sydd yn rhesymu â chwi megys â phlant, “Fy mab, na ddiystyra gerydd yr Arglwydd, a nac ymollwng pan yth argyhoedder ganddo: canys y neb y mae yr Arglwydd yn ei garu, y mae yn ei geryddu, ac yn fflangellu pob mab à dderbynio.” Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megys tuag at ei blant. Canys pa fab y sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu? Eithr os heb gerydd yr ydych, o’r hwn y mae pob mab yn gyfranog, yna bastarddiaid ydych ac nid meibion. Heblaw hyny, ni á gawsom dadau ein cnawd i’n ceryddu, a ni á’u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostynyedig i Dad ein hysbrydoedd, a byw? Canys hwynthwy, yn wir, dros ychydig ddyddiau, á’n ceryddent fel y gwelent hwy yn dda; eithr hwn èr llesâd i ni, fel y byddem gyfranogion o’i santeiddrwydd ef. Eto, ni welir un cerydd, dros yr amser presennol, yn hyfryd, eithr yn anhyfryd. Ond wedi hyny y mae yn rhoi iachusol ffrwyth cyfiawnder i’r rhai sy gwedi eu hymarfer âg ef. Oherwydd paham, cyfodwch i fyny y dwylaw à laesasant, a’r gliniau à ymollyngasant. A gwnewch lwybrau gwastad i’ch traed, fel na thröer y cloff allan o’r ffordd, ond yr iachâer ef yn hytrach. Dylynwch heddwch â phawb, a santeiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd; gàn edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddwrth rad Duw; rhag bod un gwreiddyn chwerw yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, a thrwy hwnw llygru llawer; rhag bod un puteiniwr, neu halogedig, megys Esau; yr hwn, am un saig o fwyd, á werthodd ei enedigaethfraint. Canys chwi á wyddoch, èr iddo gwedi hyny ewyllysio etifeddu y fendith, ddarfod ei wrthod ef: oblegid ni chafodd efe le i gyfnewidiad, èr iddo drwy ddagrau ei thaergeisio hi.

18-29Ac ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy, ac at dân fflamllyd, ac at gwmwl, a thywyllwch, a thymhestl, a sain udgorn, a llef geiriau, – yr hon pwybynag á’i clywsant á ddeisyfasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt; oblegid ni allent hwy oddef y bygythiad yma, “Os bwystfil á gyfhyrdda â’r mynydd, efe á labyddir.” A mòr ofnadwy oedd y golwg, nes y dywedodd Moses, “Yr wyf yn ofni ac yn crynu.” Eithr chwi á ddaethoch i fynydd Sïon; ac i ddinas y Duw byw, y Gaersalem nefol; ac at liaws aneirif, cymanfa lawen o angylion; ac at gynnulleidfa y rhai cyntafanedig, y sy gwedi eu cofrestru yn y nefoedd; ac at y Barnwr, Duw pawb; ac at ysbrydoedd y cyfiawnion y rhai á berffeithiwyd, ac at Iesu cyfryngwr y sefydliad newydd; ac at waed y taenellaid, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na’r eiddo Abel. Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru; oblegid oni ddiangodd y rhai à wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru àr y ddaiar, mwy o lawer nis diangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddwrth yr hwn sydd yn llefaru o’r nef; llef yr hwn y pryd hwnw á ysgydwodd y ddaiar; eithr yn awr yr addawodd, gàn ddywedyd, “Eto unwaith yr wyf yn ysgwyd nid yn unig y ddaiar, ond y nefoedd hefyd.” Ar “Eto unwaith” yma, sydd yn arwyddo symudiad y pethau ysgwydedig, megys pethau gwedi eu gwneuthur fel yr aroso y pethau anysgwydedig. Oherwydd paham gàn ein bod ni gwedi derbyn teyrnas anysgwydedig, bydded genym ddiolchgarwch, drwy yr hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn. Oblegid ein Duw ni sy dân ysol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help