Dadguddiad 3 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-6Ac at genad y gynnulleidfa sydd yn Sardis, ysgrifena: – Y pethau hyn y mae yr hwn sydd â saith ysbryd Duw, a’r saith seren ganddo, yn eu dywedyd: – Mi á adwaen dy weithredoedd di, bod genyt enw dy fod yn fyw, a marw ydwyt. Bydd wyliadwrus a chadarnâa y pethau sydd yn ngweddill genyt, y rhai sy barod i farw; canys ni chefais dy weithredoedd di yn gyflawn gèr bron Duw. Cofia, gàn hyny, pa fodd y derbyniaist, ac y clywaist, a dal, a diwygia: os tydi, gàn hyny, ni wỳli, mi á ddeuaf arnat ti fel lleidr, ac ni chai di wybod pa awr y deuaf atat. Eithr y mae genyt ychydig enwau yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad: a hwy á gânt rodio gyda mi mewn dillad gwỳnion, oblegid teilwng ydynt. Yr hwn sydd yn gorchfygu, hwnw á wisgir mewn dillad gwỳnion; ac ni ddileaf ei enw ef allan o lyfr y bywyd; ond mi á gyffesaf ei enw ef gèr bron fy Nhad, a chèr bron ei angylion ef. Yr hwn sy ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Ysbryd yn ei ddywedyd wrth y cynnulleidfäoedd.

7-13Ac at genad y gynnulleidfa sydd yn Philadelphia, ysgrifena: – Y pethau hyn y mae y Santaidd, y Cywir, yn eu dywedyd; yr hwn sy ganddo agoriad Dafydd; yr hwn sydd yn agoryd, ac nid yw neb yn cau; ac yn cau, ac nid yw neb yn agoryd: mi á adwaen dy weithredoedd: wele, rhoddais gèr dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau; oblegid bod genyt ychydig nerth, a chadw o honot fy ngair, ac na wedaist fy enw. Wele, mi á roddaf o honynt hwy – y rhai sydd o gynnulleidfa Satan; y rhai sydd yn dywedyd mai Iuddewon ydynt, ac heb fod, ond dywedyd celwydd y maent; wele – mi á wnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed; a chânt wybod, ddarfod i mi dy garu di. O achos cadw o honot air fy amynedd i, minnau a’th gadwaf dithau oddwrth awr profedigaeth, yr hon á ddaw àr yr holl fyd, i brofi preswylwyr y ddaiar. Yr ydwyf yn dyfod àr frys: dal yr hyn sy genyt, fel na ddygo neb dy goron di. Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi á’i gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac allan nid â efe mwyach: a mi á ysgrifenaf arno ef enw fy Nuw i, ac enw dinas fy Nuw i, y Gaersalem Newydd, yr hon sydd i dyfod i waered o’r nef, oddwrth fy Nuw i, a fy enw newydd i. Yr hwn sy ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Ysbryd yn ei ddywedyd wrth y cynnulleidfäoedd.

14-22Ac at genad y gynnulleidfa sydd yn Laodicea, ysgrifena: – Y pethau hyn á ddywed yr Amen, y Tyst ffyddlawn a chywir, Dechreuad crëedigaeth Duw: mi á adwaen dy weithredoedd, nad ydwyt nac oer na brwd: mi á fỳnwn pe bait oer neu frwd. Felly, am dy fod yn glaiar, ac nid yn oer nac yn frwd, mi á’th chwydaf di allan o’m genau. Oblegid dy fod yn dywedyd, Goludog wyf, a mi á ymgyfoethogais, ac nid oes arnaf eisieu dim; ac ni wyddost dy fod yn druan, ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth. Yr wyf yn dy gynghori i brynu genyf fi aur wedi ei brofi drwy dân, fel yth gyfoethoger; a dillad gwynion, fel yth wisger, ac fel nad ymddangoso gwarth dy noethder di: ira hefyd dy lygaid âg eli llygaid, fel y gwelych. Yr wyf fi yn argyhoeddi, ac yn ceryddu y sawl yr wyf yn eu caru; am hyny bydd eiddgar, a diwygia. Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo: os clyw neb fy llais i, ac agoryd y drws, mi á ddeuaf i fewn ato ef, ac á swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau. Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi àr fy ngorseddfainc; megys y gorchfygais innau, ac yr eisteddais gyda’m Tad àr ei orsdddfainc ef. Yr hwn sy ganddo glust, gwrandawed beth y mae yr Ysbryd yn ei ddywedyd wrth y cynnulleidfäoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help