Ioan Marc 3 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-6Bryd arall efe á aeth i fewn i’r gynnullfa, pan oedd yno ddyn â chanddo law gwedi gwywo. Hwythau gyda bwriad i gyhuddo Iesu á’i gwyliasant ef, i edrych á iachâai efe y dyn àr y Seibiaeth. Iesu á ddywedodd wrth y dyn â’r law wywedig ganddo, Saf i fyny yn y canol. Yna efe á ddywedodd wrthynt, Ai cyfreithlawn gwneuthur da âr y Seibiaeth, ynte gwneuthur drwg – gwaredu, ynte lladd? Ond hwy á dawsant â son. A gwedi edrych oddamgylch arnynt hwy, gyda digllonedd, yn cael ei ofidio oblegid dallineb eu meddyliau, efe á ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law: a fel yr oedd efe yn estyn allan ei law, hi á adferwyd. A’r Phariseaid á aethant allan yn ebrwydd, ac á gydymgynghorasant â’r Herodiaid yn ei erbyn èr ei ddyfetha ef.

7-12Eithr Iesu á giliodd, gyda ’i ddysgyblion, tua ’r môr, lle y dylynwyd ef gàn dyrfa fawr o Alilëa, o Iuwdëa, o Gaersalem, o Iduwmëa, ac o lànau yr Iorddonen. A’r rhai o diriogaethau Tyrus a Sidon hefyd, wedi clywed pa ryfeddodau á wnaethai efe, á ymgasglasant ato yn dyrfëydd. Yna y perodd efe iddei ddysgyblion geisio cwch yn barod iddo, o herwydd y lliaws rhag iddynt ei lethu ef; oblegid efe á iachâasai lawer, yr hyn á wnaeth i bawb, oedd ag anhwylderau arnynt, wasgu ato i gyfhwrdd ag ef. A’r ysbrydion aflan, pàn welsant ef, á ymgrymasant o’i flaen ef, gàn lefain, Ti yw Mab Duw. Ond efe á orchymynodd yn gaeth iddynt, na wnaent ef yn adnabyddus.

DOSBARTH II.Enwad Apostolion.

13-19Gwedi hyny, Iesu á esgynodd i fynydd, ac á alwodd ato y sawl à fỳnai efe, a hwy á aethant ato. Ac efe á ddetholodd ddeuarddeg, i fod gydag ef, fel y cènadwriaethai efe hwynt i gyhoeddi y teyrnasiad, gàn eu galluogi i iachâu clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid. Y rhai hyn oeddynt Simon, yr hwn á gyfenwodd efe Pedr, ac Iägo, mab Zebedëus, ac Iöan brawd Iägo. Y rhai hyn á gyfenwodd efe Boanerges, hyny yw, meibion taran; ac Andrëas, a Phylip, a Bartholomëus, a Matthew, a Thomas, ac Iägo, mab Alphëus, a Thadëus, a Simon y Canaanëad, a Iuwdas Iscariot, yr hwn á’i bradychodd ef.

20-30Yna yr aethant i fewn i dŷ, ac yno drachefn yr ymgasglodd tyrfa, fel na allai Iesu a’i ddysgyblion gymaint â bwyta. Ei geraint wedi clywed hyn, á aethant allan iddei ddal ef, (canys dywedasant, Y mae efe allan o’i bwyll. A’r Ysgrifenyddion à ddaethent o Gaersalem, á ddywedasant, Y mae efe mewn cyngrair â Beelzebwb, ac yn bwrw allan gythreuliaid, drwy dywysog y cythreuliaid.) Wedi i Iesu eu galw hwynt, efe á ddywedodd wrthynt drwy gyffelybiaethau, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? Os bydd teyrnas wedi ei rhwygo drwy ymbleidiau, nis gall y deyrnas hòno sefyll. Ac os bydd teulu gwedi ei rwygo drwy ymbleidiau, nis gall y teulu hwnw sefyll. Felly, os yw Satan yn ymladd yn ei erbyn ei hun, a gwedi ymrànu, nis gall efe sefyll, ond y mae yn agos iddei ddiwedd. Nis gall neb, wedi myned i fewn i dŷ y cadarn, ysbeilio ei ddodrefn ef, oddeithr iddo yn gyntaf drechu y cadarn; yna, yn wir, efe á all ysbeilio ei dŷ ef. Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, èr bod pob pechod arall mewn dynion yn faddeuadwy, a pha athrodion bynag á draethont; pwybynag á ddywedo athrodiaith yn erbyn yr Ysbryd Glan, ni faddeuir iddo byth, eithr y mae yn agored i gosb dragwyddol. Hyn á ddywedodd efe, am ddarfod iddynt haeru ei fod mewn cyngrair ag ysbryd aflan.

31-35Yn y cyfamser, daeth ei fam ef a’i frodyr, y rhai, gan sefyll allan, á ddanfonasant am dano. A’r bobl oedd yn eistedd o’i amgylch, á ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam a’th frodyr allan, ac yn dy geisio di. Yntau á’u hatebodd hwynt, gàn ddywedyd, Pwy yw fy mam i neu fy mrodyr i? A chàn edrych o gwmpas àr y rhai à eisteddent o’i amgylch, efe á ddywedodd, Wele fy mam i a’m brodyr i; canys pwybynag á wna ewyllys Duw, hwnw yw fy mrawd, fy chwaer, a’m mam.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help