1-3 Paul, carcharor dros Iesu Grist, a’r brawd Timothëus, at Philemon yr anwylyd, a’n cydweithiwr; ac at Apphia yr anwylyd; ac at Archippus ein cydfilwr, ac at y gynnulleidfa sydd yn dy dŷ di: Rhad i chwi, a thangnefedd oddwrth Dduw ein Tad, ac oddwrth ein Harglwydd Iesu Grist.
4-25Yr wyf yn diolch i’m Duw yn wastadol, gàn wneuthur coffa am danat yn fy ngẅeddiau, (gwedi clywed am y ffydd y sy genyt tuagat yr Arglwydd Iesu, ac am dy gariad at yr holl saint,) fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn effeithiol drwy gydnabod pob peth daionus y sydd yn ein mysg ni tuagat Grist Iesu. Canys y mae genym lawer o lawenydd a dyddanwch yn dy gariad di; herwydd bod eneidiau y saint yn cael en llòni genyt ti, frawd. Herwydd paham, èr y gallwn fod yn hyf iawn yn Nghrist i orchymmyn i ti yr hyn sy weddus; eto, o ràn cariad, yr wyf yn hytrach yn attolwg, èr fy mod yn gyfryw un a Phaul, yn hen wr, ac yn awr hefyd yn garcharor dros Iesu Grist. Yr ydwyf yn attolwg i ti dros fy mab, yr hwn á genedlais i yn fy rhwymau, sef Onesimus; yr hwn gynt á fu i ti yn anfuddiol, ond yn awr á fydd yn fuddiol iawn i ti, megys y mae gwedi bod i minnau; – yr hwn á ddanfonais i yn ol: derbyn dithau ef, gàn hyny, fel gwrthddrych o fy serch gwresocaf; yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi fy hun, fel, yn dy le di, y gwasanaethai efe fi, yn y rhwymau hyn dros yr efengyl: eithr heb dy feddwl di, nid ewyllysiais wneuthur dim, fel na byddai y daioni oddwrtht ti megys drwy gymhell, ond megys o wirfodd. Ysgatfydd hefyd, oherwydd hyn y gwahanwyd ef dros ychydig amser, fel y ceffit ef yn dragywydd: nid fel caethwas yn unig mwyach, eithr uwchlaw caethwas, yn frawd anwyl, yn enwedig i mi; a pha faint mwy i ti; yn y cnawd, ac yn yr Arglwydd hefyd! Os wyt ti, gàn hyny, yn fy nghymeryd i yn gydymmaith, derbyn ef fel myfi. Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hyny arnaf fi. Myfi, Paul, á ysgrifenais â’m llaw fy hun. Myfi á dalaf. Nid wyf am ddywedyd dy fod yn fy nyled hyd y nod am danat dy hun. Ie, frawd, gad i mi gael llawenydd am danat yn yr Arglwydd; boddâa fy serchiadau gwresog èr mwyn Crist. Gan hyderu àr dy ufydd‐dod, yr ysgrifenais atat, gàn wybod y gwnai hyd y nod fwy nag yr wyf yn ei ofyn. Ond àr yr un pryd, parotöa i minnau letty; canys yr ydwyf yn gobeithio, drwy eich gweddiau chwi, y rhoddir fi i chwi. Y mae yn dy anerch, Epaphras, fy nghydgarcharor dros Grist Iesu; Marc, Aristarchus, Demas, Luwc, fy nghydweithwyr. Rhad ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.