1-24Ac am y casgliad, yr hwn sydd i’r saint, megys y trefnais i gynnulleidfäoedd Galatia, felly hefyd gwnewch chwithau. Y dydd cyntaf o bob wythnos, rhodded pob un o honoch beth wrtho ei hun, yn ol fel y byddo gwedi llwyddo, gàn ei ddodi yn y drysorfa; fel pan ddelwyf, na byddo casgliadau y pryd hyny. A phan ddelwyf, pa rai bynag á ddangosoch, drwy lythyrau, eu bod yn gymeradwy, y rhai hyny á ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Gaersalem. Neu, os cymhwys fydd i minnau hefyd fyned, hwy á gant fyned gyda mi. A myfi á ddeuaf atoch, wedi yr elwyf drwy Facedonia, (canys drwy Facedonia yr wyf yn myned;) ac, ond odid, yr arosaf, ac y gauafaf hefyd gyda chwi, fel yr hebryngoch fi, i ba le bynag yr elwyf. Canys nid yw yn fy mryd eich gweled yn awr wrth fyned heibio; ond yr wyf yn gobeithio yr arosaf beth amser gyda chwi, os caniatâa yr Arglwydd. Eithr, mi á arosaf yn Ephesus hyd y Pentecost. Canys agorwyd i mi ddrws mawr a grymus, èr hyny y mae gwrthwynebwyr llawer. Ac os bydd Timothëus wedi dyfod, edrychwch àr ei fod yn ddiofn gyda chwi; canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau. Am hyny, na ddiystyred neb ef; ond hebryngwch ef mewn heddwch, fel y delo ataf fi; canys yr wyf yn ei ddysgwyl ef gyda’r brodyr. Ac am y brawd Apòlos, mi á ymbiliais lawer ag ef am fyned atoch chwi gyda’r brodyr; eithr èr dim nid oedd ei ewyllys ef i fyned yn awr, ond efe á aiff pan gaffo amser cyfaddas. Gwyliwch; sefwch yn y ffydd; ymddygwch fel dynion; ymgadarnêwch. Gwneler pob peth mewn cariad. Chwi á adwaenoch deulu Stephanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymroddi i weinidogaeth y saint. Yr wyf yn attolwg i chwi, gàn hyny, frodyr, ymostwng o honoch i’r cyfryw, ac i bob un y sydd yn cydweithio a llafurio. Yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Stephanas, Fortunatus, ac Achaicus; canys eich diffyg chwi hwy á’i cyflawnasant, ac á esmwythâasant àr fy ysbryd i, a’r eiddoch chwithau: cydnabyddwch, gàn hyny, y cyfryw rai. Y mae cynnulleidfäoedd Asia yn eich anerch chwi. Y mae Acwila a Phriscìla yn eich anerch yn fawr yn yr Arglwydd, gyda’r gynnulleidfa sydd yn eu tŷ hwynt. Y mae y brodyr oll yn eich anerch. Anerchwch eich gilydd â chusan santeiddiol. Anerchiad Paul â’m llaw fy hun. Od oes neb nid yw yn caru yr Arglwydd Iesu Grist, efe á fydd esgymun pan ddelo yr Arglwydd. Rhad ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Fy serch innau fo gyda chwi oll yn Nghrist Iesu. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.