1-3 Yr henuriad, at Electa Cyria, a’i phlant, y rhai yr wyf yn eu caru mewn gwirionedd, (ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd à adnabuant y gwirionedd,) er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd ynom ni, ac á fydd gyda ni yn dragywydd: Bydded gyda chwi rad, trugaredd, a thangnefedd, oddwrth Dduw Dad, ac oddwrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mab y Tad, gyda gwirionedd a chariad.
4-13Bu lawen iawn genyf, i mi gael o’th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn gàn y Tad. Ac yn awr yr wyf yn attolwg i ti, Cyria, nid fel yn ysgrifenu gorchymyn newydd atat, eithr yr hwn oedd genym o’r dechreuad, garu o honom ein gilydd. A hyn yw y cariad, bod i ni rodio yn ol ei orchymynion ef. Hwn yw y gorchymyn, megys y clywsoch o’r dechreuad, bod i chwi rodio ynddo; oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i fewn i’r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu mai Iesu yw Crist wedi dyfod yn y cnawd. Hwn yw y twyllwr a’r anghrist. Edrychwch atoch eich hunain, fel na chollom y pethau à weithiasom, ond bod i ni dderbyn cyflawn obr. Pob un sydd yn myned dros hyn, ac heb aros yn y ddysgeidiaeth hon am Grist, nid yw Duw ganddo ef; yr hwn sydd yn aros yn y ddysgeidiaeth hon am Grist, y mae y Tad a’r Mab ganddo. Os daw neb atoch, ac heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon; na dderbynwch ef i’ch tŷ, ac na ddymunwch rwydd‐deb iddo; canys y sawl à ddymuno rwydd‐deb iddo, sy gyfranog o’i weithredoedd drwg ef. Gan bod genyf lawer o bethau iddeu hysgrifenu atoch, nid oeddwn yn ewyllysio eu hadrodd drwy bapyr ac inc; canys gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn. Y mae plant dy anwyl chwaer yn dy anerch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.