1-9Eithr, yn wir, o berthynas i’r weinidogaeth i’r saint, afraid yw i mi ysgrifenu atoch. Oherwydd mi á adwaen eich parodrwydd, am yr hwn y bostiais drosoch, wrth y Macedoniaid, bod Achaia gwedi ymbarotoi èr y llynedd; a’ch sel chwi á annogodd lawer iawn. Er hyny, mi á ddanfonais y brodyr, fel na wnelid ein bost ni am danoch chwi yn ddisail yn y peth hwn: eithr fel, megys y dywedais, y byddoch wedi ymbarotoi. Rhag ysgatfydd, os y Macedoniaid á ddeuant gyda mi, a’ch cael chwi yn anmharod, bod i ni (ni ddywedwn, chwi) gael cywilydd drwy yr hyder yma. Mi á dybiais, gàn hyny, yn reidiol attolygu i’r brodyr fyned o’r blaen atoch, a gwneyd yn barod yn mlaen llaw eich anrheg à hysbyswyd o’r blaen; fel y byddo yr unrhyw yn barod felly megys rhodd, a nid fel peth wedi ei dỳnu oddiwrthych drwy drais. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, yr hwn sydd yn hau yn brin, á fed yn brin; a’r hwn sydd yn hau yn helaeth, á fed yn helaeth. Pob un, yn ol fel y bwriadodd yn ei galon, á ddylai roddi; nid yn drist, neu drwy ddirgymhell; canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu. A Duw á ddichon beri i bob bendith fod yn helaeth i chwi; fel, a chenych yn mhob peth bob amser bob digonoldeb, y byddwch helaethion yn mhob gweithred dda. Fel y mae yn ysgrifendig, “Efe á wasgarodd, efe á roddodd i’r tylodion; ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd.”
10-15Ar hwn sydd yn rhoddi had i’r heuwr, a bara yn ymborth, á roddo ac à amlâo eich had chwi, ac á gynnyddo gynnyrch eich cyfiawnder. Fel ych cyfoethoger yn mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw. Canys y mae gweinyddiad y gwasanaeth hwn, nid yn unig yn cyflenwi diffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu mewn diolchiadau lawer i Dduw. Gan eu bod, drwy y prawf o’r gweinyddiad hwn, yn gogoneddu Duw, oherwydd eich ymostyngiad addefedig chwi i efengyl Crist; ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb; ac oherwydd eu gweddi hwy drosoch chwi, y rhai ydynt yn eich caru yn wresog, o ran y rhagorol rad Duw à rodded i chwi. Ac i Dduw y byddo’r diolch am ei ddawn anrhaethol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.