1-21Oherwydd hyn, myfi, Paul, carcharor Iesu Grist drosoch chwi Genedloedd, os clywsoch, yn wir, am weinyddiaeth rhad Duw, yr hwn á roddwyd i mi eroch chwi, mai drwy ddadguddiad yr hysbyswyd i mi y dirgelwch, (megys yr ysgrifenais o’r blaen àr ychydig eiriau; wrth yr hyn, pan ddarllenoch, y gellwch wybod fy nealltwriaeth i yn nirgelwch Crist), yr hwn mewn oesoedd o’r blaen ni hysbyswyd i feibion dynion, fel y mae yn awr wedi ei ddadguddio iddei santaidd Apostolion a’i broffwydi drwy yr Ysbryd; y byddai y Cenedloedd yn gydetifeddion, ac yn gydgorff, ac yn gydgyfranogion o’i addewid ef yn Nghrist drwy yr efengyl; i’r hon ym gwnaed i yn weinidog, yn ol dawn rhad Duw, yr hwn á roddwyd i mi yn ol grymus weithrediad ei allu ef; – i mi, y lleiaf o’r holl saint, y rhoddwyd y rhad hwn, i gyhoeddi yn mysg y Cenedloedd anchwiliadwy olud Crist; ac i ddysgu i bawb beth yw gweinyddiaeth y dirgelwch, yr hwn á guddiesid oddwrth yr oesoedd gàn Dduw, yr hwn á grëodd bob peth. Fel y byddai yr awrhon yn hysbys i’r llywodraethau ac i’r awdurdodau yn y gororau nefol, drwy y gynnulleidfa, fawr amryw ddoethineb Duw; yn ol rhagdrefniad yr oesoedd, yr hwn á wnaeth efe yn Nghrist Iesu ein Harglwydd ni; yn yr hwn y mae i ni ryddineb ymadrodd, a dyfodfa mewn hyder, drwy ei ffydd ef. Oherwydd paham, yr wyf yn dymuno na lwfrâoch oblegid fy mlinderau i drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi. Oherwydd hyn, yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist; o’r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac àr y ddaiar; gàn ddeisyf àr roddi o hono ef i chwi, yn ol cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnâu mewn nerth, drwy ei Ysbryd ef, yn y dyn oddi mewn: àr fod Crist yn trigo drwy ffydd yn eich calonau chwi; fel, wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad, y galloch amgyffred gyda ’r holl saint, beth yw y lled, a’r hyd, a’r dyfnder, a’r uchder, – sef gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel ych llanwer â holl gyflawnder Duw. Yn awr, i’r hwn à ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ol y nerth sydd yn gweithredu ynom ni, – iddo ef y byddo gogoniant yn y gynnulleidfa drwy Grist Iesu, dros yr holl genedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.