1-18Gyda hyny, y gyfraith, a chanddi ddim ond cysgod y daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau hyn, nis gall, drwy yr un aberthau, y rhai y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymu yn wastadol, byth berffeithio y sawl sydd yn dyfod atynt. Oblegid yna, oni pheidiasent a’u hoffrymu; am na buasai gydwybod pechod mwy gàn y rhai à offryment, wedi eu puro unwaith? eithr, yn yr aberthau hyn, y mae adgoffa pechodau bob blwyddyn. Heblaw hyny, annichon ydyw i waed teirw a geifr dỳnu ymaith bechodau. Oherwydd paham, y mae efe, wrth ddyfod i’r byd yn dywedyd, “Aberth ac offrwm nis mỳnaist; eithr corff á gymhwysaist i mi. Offrymau hollboeth, ac offrymau dros bechod, ni buost foddlawn iddynt. Yna, y dywedais, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw! (Yn rhol y llyfr y mae yn ysgrifenedig am danaf.”) Wedi iddo ddywedyd uchod, “Aberth, ac offrwm, ac offrymau hollboeth, ac offrymau dros bechod, nis mynaist, a nid ymfoddlonaist ynynt”, – (y rhai yn ol y gyfraith á offrymir,) yna y dywedodd, “Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di.” Y mae yn tỳnu ymaith yr ewyllys cyntaf, fel y sefydlai yr ail. Drwy yr hwn Ewyllys yr ydym ni gwedi ein santeiddio, drwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith. Ac yn wir, y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gweinidogaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai nis gallant byth ddileu pechodau; eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, dros ei holl fywyd, á eisteddodd àr ddeheulaw Duw; o hyny allan yn dysgwyl hyd oni osoder ei elynion yn fainc draed iddo. Oherwydd paham, âg un offrwm y perffeithiodd efe yn dragywydd y rhai sy gwedi eu santeiddio. Ac y mae yr Ysbryd Glan hefyd yn tystiolaethu i ni; canys wedi iddo ddywedyd, “Dyma ’r sefydliad à wnaf fi â hwynt àr ol y dyddiau hyn, medd yr Arglwydd; myfi á osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonau, ac á’u hysgrifenaf àr eu meddyliau:” efe á chwanega, “a’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwyach.” A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod.
19-25Am hyny, frodyr, gàn fod i ni ryddid i fyned i fewn i’r cysegr, drwy waed Iesu, – ffordd newydd a bywiol, yr hon á gysegrodd efe i ni drwy y llen, (sef ei gnawd ef;) ac – Archoffeiriad àr dŷ Duw, nesâwn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd; – wedi ein taenellu o ran ein calonau oddwrth gydwybod ddrwg, a’n golchi o ran ein corff â dwfr glan, daliwn gyffes y gobaith yn ddisigl hyd y diwedd; canys ffyddlawn yw yr hwn à addawodd. A chydystyriwn bawb ein gilydd i ymannog i gariad a gweithredoedd da; heb esgeuluso ein cydgynnulliad ein hunain, megys y mae arfer rhai, ond annog bawb ein gilydd, a hyny yn fwy o gymaint a’ch bod yn gweled y dydd yn nesâu.
26-39Canys os o’n gwirfodd y pechwn, àr ol derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau gwedi ei adael mwyach; eithr rhyw ddysgwyl ofnadwy am farnedigaeth, a digllonedd tanllyd, yr hwn á ddifa y gwrthwynebwyr. Y sawl à ddirmygai gyfraith Moses, á fyddai farw heb drugaredd, dàn ddau neu dri o dystion. Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o’r hwn à fathrodd Fab Duw, ac á farnodd yn aflan waed y sefydliad drwy yr hwn y santeiddiwyd ef, ac á ddifenwodd Ysbryd y Rhad? Canys nyni á adwaenom y neb à ddywedodd, “Myfi biau dial; myfi á dalaf, medd yr Arglwydd:” a thrachefn, “Yr Arglwydd á farna ei bobl.” Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw byw. Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, gwedi eich goleuo, y dyoddefasoch ymdrech mawr o helbulon; wedi eich gwneuthur mewn rhàn, yn wir, yn ddrych drwy waradwyddiadau a chystuddiau; a mewn rhàn, drwy gael eich gwneuthur yn gyfranogion â’r rhai à drinid felly. Canys chwi á gyd‐ddyoddefasoch hefyd â mi yn fy rhwymau, ac á gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen, gàn wybod bod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parâus. Am hyny, na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr obr. Canys y mae yn raid i chwi barâu i wneuthur ewyllys Duw, fel y derbynioch y gobr addawedig. Canys ychydig bachigyn eto, a’r Hwn sydd yn dyfod à ddaw, a nid oeda. A’r cyfiawn á fydd byw drwy ffydd; eithr o thyn efe yn ol, ni bydd fy enaid yn ymfoddloni ynddo. Eithr nid ydym ni o’r rhai sydd yn tỳnu yn ol i golledigaeth, ond o’r rhai sydd yn parâu yn ffyddlawn i gadwedigaeth yr enaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.