Dadguddiad 20 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-6A mi á welais angel yn disgyn o’r nef, â chanddo allwedd yr anoddyfn, a chadwyn fawr yn ei law. Ac efe á ddaliodd y ddraig, yr hen sarff, yr hon yw Diafol a Satan, ac á’i rhwymodd ef dros fil o flynyddoedd; ac á’i bwriodd ef i’r anoddyfn, ac á gauodd arno, ac á seliodd arno ef, fel na thwyllai efe y cenedloedd mwyach, nes cyflawni y mil o flynyddoedd; ac àr ol hyny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd dros ychydig amser. A mi á welais orseddfeinciau, a hwy á eisteddasant arnynt, a barn á roed iddynt hwy; – ac eneidiau y rhai y torwyd eu pènau am dystiolaeth Iesu, ac am air Duw, a’r rhai nid addolasent y bwystfil, na’i ddelw ef, ac ni dderbyniasent ei nod ef àr eu talcenau, ac àr eu dwylaw; a hwy á fuant fyw, ac á deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd; eithr y lleill o’r meirw ni fuant fyw drachefn, nes cyflawni y mil blynyddoedd; dyma yr adgyfodiad cyntaf. Gwỳnfydedig a santaidd yw yr hwn sydd à rhan iddo yn yr adgyfodiad cyntaf! y cyfryw rai nid oes i’r ail farwolaeth awdurdod arnynt; eithr hwy á fyddant offeiriaid i Dduw ac i Grist; a hwy á deyrnasant gydag ef fil o flynyddoedd.

7-10A phan gyflawner y mil blynyddoedd, gollyngir Satan allan o’i garchar; ac efe á â allan i dwyllo y cenedloedd, y rhai sydd yn mhedair congl y ddaiar, Gog a Magog, iddeu casglu hwy yn nghyd i ryfel; rhif y rhai sy fel tywod y môr. A hwy á aethant i fyny dros led y ddaiar, ac á amgylchasant wersyll y saint, a’r ddinas anwyl; a thân á ddaeth oddwrth Dduw i waered o’r nef, ac á’u hysodd hwynt. A’r diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, á fwriwyd i’r llyn o dân a brwmstan, lle yr oedd y bwystfil a’r geubrophwyd; a hwy á boenir ddydd a nos, am oes oesoedd.

11-15A mi á welais orseddfainc wen fawr, a’r hwn oedd yn eistedd arni, oddwrth wyneb yr hwn y ffôdd y ddaiar a’r nef, a lle ni chaed iddynt. A mi á welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll ger bron Duw; a’r llyfrau á agorwyd: a llyfr arall á agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifenu yn y llyfrau, yn ol eu gweithredoedd. A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo; a marwolaeth a hades á roisant i fyny y meirw oedd ynynt hwythau; a hwy á farnwyd bob un yn ol ei weithredoedd. A marwolaeth a hades á fwriwyd i’r llyn o dân; hon yw yr ail farwolaeth. A phwybynag ni chafwyd wedi ei ysgrifenu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i’r llyn o dân.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help