1-2 Pedr, Apostol i Iesu Grist, at etholedig ymdeithiwyr y gwasgariad, ar hyd Pontus, Galatia, Cappadocia, Asia, a Bithynia, – yn ol rhagdrefniad Duw Dad, drwy santeiddiad yr Ysbryd, èr ufydd‐dod, a glanâad drwy waed Iesu Grist; Rhad i chwi a thangnefedd á amlâer.
3-25Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn, yn ol ei fawr drugaredd, a’n hadgenedlodd ni i obaith bywiol, drwy adgyfodiad Iesu Grist oddwrth y meirw – i etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, ac anniflanedig, yn nghadw yn y nefoedd i ni; y rhai, drwy allu Duw, á gedwir drwy ffydd, i’r iechydwriaeth y sy barod iddei dadguddio yn yr amser diweddaf. O achos hyn byddwch lawen iawn, èr eich bod yn awr, dros ychydig, (gàn mai rhaid yw,) mewn tristwch oherwydd amryw brofedigaethau; fel y byddo profiad eich ffydd chwi, (yr hwn sy lawer gwerthfawrusach na’r eiddo yr aur y sydd yn darfod, èr ei brofi drwy dân,) èr mawl, ac anrhydedd, a gogoniant, yn ymddangosiad Iesu Grist; yr hwn, èr nas gwelsoch, yr ydych yn ei garu; àr yr hwn heb fod yr awrhon yn edrych, ond yn credu ynddo, yr ydych yn mawr‐lawenâu, â llawenydd anrhaethadwy a gogoneddus – gàn dderbyn gobr eich ffydd, sef iechydwriaeth eich eneidiau. Am yr hon iechydwriaeth yr ymofynodd, ac y manwl‐chwiliodd y prophwydi, y rhai á brophwydasant am y rhad à roddwyd i chwi; gàn chwilio yn ddyfal am ba bethau, a pha ryw amser, yr oedd Ysbryd Crist, yr hwn oedd ynynt, yn hysbysu, pan oedd efe yn rhagdystiolaethu dyoddefaint Crist, a’r gogoniannau àr ol hyny: – i’r rhai y dadguddiwyd, nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, yr oeddynt yn gweini yn y pethau hyn; y rhai á fynegwyd yn awr i chwi, gàn y rhai à gyhoeddasant y newydd da i chwi, â’r Ysbryd Glan yr hwn á ddanfonwyd o’r nef; i’r hyn bethau y mae yr angylion yn chwennychu edrych. Oherwydd paham, wedi gwregysu lwynau eich meddwl, gàn fod yn wyliadwrus, gobeithiwch yn wastadol am y dawn à ddygir i chwi, yn nadguddiad Iesu Grist. Fel plant ufydd, heb gydymagweddu â’r trachwantau o’r blaen, yn eich anwybodaeth; eithr megys y mae yr hwn à’ch galwodd chwi yn santaidd, byddwch chwithau hefyd santaidd yn eich holl ymarweddiad: oblegid y mae yn ysgrifenedig, “Byddwch santaidd, canys santaidd ydwyf fi.” Ac os ydych yn ei alw ef yn Dad, yr hwn, heb dderbyn wyneb, sydd yn barnu yn ol gweithred pob un, – ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad; gàn wybod nad â phethau llygredig, megys arian neu aur, ych prynwyd oddwrth eich ofer ymarweddiad, à draddodwyd i chwi gàn eich tadau, eithr â gwerthfawr waed Crist, megys oen difeius a difrycheulyd; yr hwn, yn wir, á ragdrefnwyd cyn sylfaenu y byd, eithr á eglurwyd yn yr amseroedd diweddaf hyn èr eich mwyn chwi; y rhai, drwyddo ef, ydych yn credu yn Nuw, yr hwn á’i cyfododd ef oddwrth y meirw, ac á roddes iddo ogoniant, fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw. Oherwydd paham, wedi puro eich eneidiau drwy ufyddâu i’r gwirionedd, drwy yr Ysbryd, i frawdgarwch diragrith, cerwch eich gilydd o galon bur yn wresog; wedi eich adgenedlu nid o had llygredig, eithr anllygredig, drwy air y Duw byw, yr hwn air sydd yn parâu. “Canys pob cnawd fel glaswelltyn yw, a’i holl ogoniant ef fel blodeüyn y glaswelltyn. Gwywa y glaswelltyn, a’i flodeüyn á syrthia; eithr gair yr Arglwydd sydd yn parâu yn dragywydd.” A dyma y gair à gyhoeddwyd megys newydd da i chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.