Dadguddiad 6 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-2A mi á edrychais pan agorodd yr Oen un o’r saith sel; a mi á glywais un o’r pedwar anifel yn dywedyd, megys â llais taran, Dyred a gwel. A mi á edrychais, ac wele farch gwyn; a’r hwn à eisteddai arno, oedd â bwa ganddo; a rhoddwyd iddo goron; ac efe á aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu.

3-4A phan agorodd efe yr ail sel, mi á glywais yr ail anifel yn dywedyd, Dyred – A daeth allan farch arall, o liw coch; a rhoddwyd i’r hwn oedd yn eistedd arno gymeryd heddwch oddar y ddaiar, a bod iddynt ladd eu gilydd; a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr.

5-6A phan agorodd efe y drydydd sel, mi á glywais y trydydd anifel yn dywedyd, Dyred a gwel. A mi á edrychais, ac wele farch du; a chàn yr hwn oedd yn eistedd arno yr oedd clorian yn ei law. A mi á glywais lais yn nghanol y pedwar anifel, yn dywedyd, Chenics o wenith am geiniog, a thri chenics o haidd am geiniog; èr hyny, na wna niwed i’r olew a’r gwin.

7-8A phan agorodd efe y bedwaredd sel, mi á glywais lais y pedwerydd anifel yn dywedyd, Dyred a gwel. A mi á edrychais, ac wele farch gwelwlas; a’r hwn oedd yn eistedd arno oedd â’i enw, Marwolaeth; ac yr oedd Hades yn ei ganlyn ef; a rhoddwyd awdurdod iddo i ladd y bedwaredd ran o’r ddaiar â’r cleddyf, ac â newyn, ac â bwystfilod y maes.

9-11A phan agorodd efe y bummed sel, mi á welais dàn yr allor, eneidiau y rhai à laddesid am air Duw, a’r dystiolaeth oeddynt yn ei ddal. A hwy á lefasant â llef uchel gàn ddywedyd, Pa hyd, Arglwydd goruchaf, santaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu, ac yn dial ein gwaed ni àr y rhai sydd yn trigo àr y ddaiar? A gynau gwỳnion á roed i bob un o honynt; a dywedwyd wrthynt àr iddynt orphwys eto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cydweision a’u brodyr, y rhai oedd i gael eu lladd, megys y cawsant hwythau.

12-17A mi á edrychais pan agorodd efe y chwechfed sel, a bu daiargryn mawr; a’r haul á aeth yn ddu fel sachlen flew; a’r lleuad i gyd á aeth fel gwaed; a’r ser á syrthiasant o’r nef àr y ddaiar, fel ffigysbren yn bwrw ei ffigys gleision, pan ei hysgydwir gàn wynt mawr; a’r nef á aeth heibio fel rhòl, wedi ei blygu yn nghyd; a phob mynydd, ac ynys, á symudwyd allan o’u lleoedd: a breninoedd y ddaiar, a’r gwŷr mawr, a’r cyfoethogion, a’r penswyddogion, a’r gwỳr cedyrn, a phob gwr caeth, á phob gwr rhydd, á ymguddiasant yn ogofeydd, ac yn nghreigiau y mynyddoedd: ac á ddywedasant wrth y mynyddoedd, a’r creigiau, Syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd àr yr oseddfainc, ac oddwrth lid yr Oen! canys daeth dydd mawr ei ddigder ef, a phwy á ddichon sefyll?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help