1-4 Yr hyn oedd o’r dechreuad, yr hyn á glywsom, yr hyn á welsom â’n llygaid, yr hyn á edrychasom arno, ac á deimlodd ein dwylaw, am Air y Bywyd – (canys y Bywyd á eglurwyd, a ni á’i gwelsom ef, ac yr ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi y Bywyd tragwyddol hwnw, yr hwn oedd gyda’r Tad, ac á eglurwyd i ni;) yr hyn á welsom ac á glywsom, yr ydym yn ei fynegi i chwi; fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni; a’n cymdeithas ni yn wir sy gyda’r Tad, a chyda’i Fab ef, Iesu Grist. A’r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifenu atoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
5-10A dyma y genadwri à glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei mynegi i chwi, Mai goleuni yw Duw, ac ynddo ef nid oes dim tywyllwch. Os dywedwn, bod i ni gymdeithas gydag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn ufyddâu i’r gwirionedd. Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megys y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas á’n gilydd, a gwaed Iesu Grist ei Fab ef sydd yn ein glanâu ni oddwrth bob pechod. Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlawn yw efe a chyfiawn i faddau i ni ein pechodau, ac i’n glanâu oddwrth bob annghyfiawnder. Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a’i air ef nid yw ynom.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.