1-30Dywedyd yr wyf, hefyd, dros gymaint o amser ag y mae yr etifedd dàn oed, nad oes rhagor mewn dim rhyngo a chaethwas, èr ei fod yn arglwydd ar y cwbl. Canys y mae efe dàn ymgeleddwyr a goruchwylwyr, hyd yr amser à benodwyd o’r blaen gàn ei dad. Felly ninnau, hefyd, pan oeddym dàn oed, oeddym gaethion dàn wyddorion y byd. Ond pan ddaeth yr amser gosodedig i ben, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dàn y gyfraith, fel y prynai y rhai dàn gyfraith, fel y derbyniem y mabwysiad. Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw ysbryd ei Fab i’ch calonau chwi, yn llefain, Abba, Dad. Fel nad wyt ti mwy yn gaethwas, ond yn fab; ac os mab, yna etifedd i Dduw drwy Grist. Eithr gynt, yn wir, pan oeddych heb adnabod Duw, chwi á wasanaethasoch y rhai, wrth naturiaeth, nid ydynt dduwiau. Ond yn awr, a chwi gwedi cydnabod Duw, (neu yn hytrach, wedi eich cydnabod gàn Dduw,) paham yr ydych yn troi yn ol drachefn at y gwyddorion llesg a thylodion, y rhai y mae tuedd ynoch drachefn, o newydd, i fod yn gaeth iddynt? Cadw yr ydych yn ofalus ddiwrnodiau, a newyddloerau, ac amseroedd, a blynyddoedd. Y mae arnaf ofn am danoch, rhag ysgatfydd, ddarfod i mi lafurio yn ofer yn eich plith. Frodyr, yr wyf yn attolwg i chwi, byddwch fel myfi: canys yr wyf fi fel chwi. Ni wnaethoch gam â mi mewn dim. Chwi á wyddoch, yn wir, mai mewn gwendid y cnawd, y mynegais i chwi yr efengyl y waith gyntaf. Eto fy mhrofedigaeth hòno, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch; a ni ’m gwrthodasoch chwaith, eithr derbyniasoch fi megys angel i Dduw, megys Crist Iesu. Beth gàn hyny oedd eich dedwyddwch chwi! canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai alledig, y tỳnasech eich llygaid, ac á’u rhoisech i mi. A aethym i, gàn hyny, yn elyn i chwi, am fy mod yn dywedyd i chwi y gwirionedd? Y maent yn dwyn eiddigedd drosoch, ond nid yn anrhydeddus. Ië chwennych y maent ein cau ni allan, fel y dygoch eiddigedd drostynt hwy. Eithr anrhydeddus yw dwyn eiddigedd dros wr da yn wastadol, a nid yn unig pan fyddwyf bresennol gyda chwi. Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch, mi á chwennychwn, yn wir, fod gyda chwi yn awr, a newid fy lleferydd; oherwydd yr wyf mewn ammheuaeth mawr am danoch. Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dàn y gyfraith, onid ydych chwi yn clywed y gyfraith? Canys y mae yn ysgrifenedig, fod i Abraham ddau fab: un o’r gaethforwyn, ac un o’r wraig rydd. Eithr yr hwn oedd o’r gaethforwyn á genedlwyd yn ol y cnawd; ond yr hwn oedd o’r wraig rydd, drwy yr addewid. Yr hyn bethau á arallegir: canys y gwragedd hyn ydynt ddau sefydliad; un, yn wir, o Fynydd Sinai, yn dwyn plant i gaethiwed; yr hon yw Hagar, (canys yr enw Hagar, sydd yn dynodi Mynydd Sinai yn Arabia,) ac y mae yn cyfateb i’r Gaersalem sydd yn awr, ac y mae yn gaeth hi a’i phlant. Eithr y Gaersalem uchod yw y wraig rydd, yr hon yw ein mam ni. Canys ysgrifenedig yw, “Llawenâa di yr anmhlantadwy, yr hon nid wyt yn eppilio! Tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor; oherwydd amlach meibion yr hon à adawyd, na’r eiddo yr hon yr oedd y gwr ganddi.” Ninnau, gàn hyny, frodyr, megys Isaac, ydym blant drwy addewid. Eithr megys y pryd hyny, yr hwn à genedlwyd yn ol y cnawd, á erlidiai yr hwn à genedlwyd yn ol yr Ysbryd; felly yr awrhon hefyd. Ond beth y mae yr Ysgrythyr yn ei ddywedyd? “Bwrw allan y gaethforwyn a’i mab; canys ni chaiff mab y gaethforwyn etifeddu gyda mab y wraig rydd.”
31Felly, frodyr, nid plant i’r gaethforwyn ydym, ond i’r wraig rydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.